Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 11eg Medi, 2023 11:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnus (os oes rhai) gan Aelodau/Swyddogion yn unol â darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008 (gan gynnwys datganiadau chwipio)

 

Cofnodion:

Datganodd y canlynol fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chynllun Gweithredol:

 

y Cynghorydd Martyn Jones fel Ustus presennol yn Llys Ynadon Caerdydd;

Cynghorydd Johanna Llewellyn-Hopkins fel Aelod o Banel Trosedd De Cymru.

23.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 369 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod 13 03 23 i’w cymeradwyo

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 dyddiedig 13 Mawrth 2023 fel cofnod gwir a chywir.

24.

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chynllun Gweithredol pdf eicon PDF 983 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Cymorth i Deuluoedd

Christa Bonham-Griffiths – Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Owen Shepherd - Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid

Kevin Reeves – Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid

Catherine Evans - Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Strategol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion, y camau gweithredu a’r datblygiadau cyfunol a amlinellwyd yn ei Gynllun Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2022-2023 a’r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Blynyddol Cyfiawnder Ieuenctid 2023-2024 Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Strategol a’r Gwahoddedigion a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

·       Manylion yn yr adroddiad yn ymwneud â gwelliannau i gysylltiadau iechyd meddwl a’r data a aseswyd, gan gynnwys:

-        Roedd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed gynrychiolaeth ar y Bwrdd Rheoli.

-        Problemau datrys atgyfeiriadau a chau achosion.

-        Y Rheolwr Datrys Problemau Gweithredol yn ei le.

-        Un pwynt mynediad mwy hygyrch i gael gafael ar y ddarpariaeth.

-        Byddai swydd Ymgynghorydd Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn cael ei llenwi a fyddai'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. 

·       Sicrwydd ynghylch y gwelliannau sylweddol a wnaed ers yr Argymhellion a wnaed yn yr adroddiad arolygu ym mis Chwefror 2022.

·       Dadansoddiadau o’r wybodaeth ariannol a staffio sy’n ymwneud â Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, darpariaeth o gyllidebau partneriaid amlasiantaethol a rhwymedigaethau ariannol ar gyfer partneriaid sydd â chyfrifoldeb statudol i gyflawni’r cynllun

·       Cynrychiolaeth yr Heddlu, Addysg, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant ar y Bwrdd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid fel rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, ac yn benodol, yr angen am fwy o gefnogaeth gan y gwasanaeth prawf o ganlyniad i’r galw ar y gwasanaeth.

·       Ystadegau holiadur Fy Llais, yn arbennig y 64% o’r 25 o ddisgyblion oedd yn mynychu’r ysgol nad oedd yn ei mwynhau, a nodwyd y byddai wedi bod yn dda clywed safbwyntiau’r ysgol yngl?n â sut yr oeddent yn cefnogi’r unigolion hynny.

·       Materion yn ymwneud â recriwtio ar draws y Sir a’r gronfa fechan o weithwyr proffesiynol ar gyfer rhai rolau a allai fod yn achosi oedi ac anawsterau o ran recriwtio, a sicrwydd bod tîm pwrpasol i sicrhau bod ymateb cyflym i blant o ran asesu a chynllunio, yn ogystal â defnydd y gwasanaeth ehangach.

·       Cyflwyno’r offeryn sgrinio trawma ar gyfer pob plentyn sy’n dod i mewn i’r gwasanaeth, y sgrinio i’w gyflawni, sut y caiff ei adolygu a’r adnodd i adolygu’r prosesau.

·       Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol cenedlaethol presennol a’r rhai ychwanegol a osodwyd ym mis Ebrill 2023 a’r diffyg mesurau neu dargedau yn eu herbyn, sut bydd y data a’r wybodaeth yn cael eu monitro yn y dyfodol i sicrhau bod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn perfformio.

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd y gallent adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau ag Aelodau’r Cabinet a Swyddogion, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

  1. Bod y naratif yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau i'r Pwyllgor Craffu yn y dyfodol yn egluro pam nad oedd y tabl cyllideb gyda dadansoddiad o'r wybodaeth ariannol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24.

25.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y Flaenraglen Waith.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'n fuddiol gwahodd cynrychiolwyr ysgolion – penaethiaid ysgolion a chynrychiolwyr Byrddau Iechyd i graffu ar adroddiadau yn y dyfodol ar y gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn     

                                 Atodiad A, yn amodol ar y sylw uchod, yn nodi’r

                                 Taflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn

                                 Atodiad Bac yn nodi fod Taflen Monitro Gweithredu

                                 Argymhellion y Flaenraglen Waith, ac unrhyw

                                 ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i

                                 gyfarfod nesaf Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc.    

26.

Eitemau Brys

Ystyriedunrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi ynddynt

ynunol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai, oherwydd amgylchiadau arbennig, gael ei drafod yn y cyfarfod fel mater o frys.

Cofnodion:

Dim.