Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Ymddiheurodd y Swyddogion/Aelodau canlynol am na allent ddod i'r cyfarfod:-
Y Cyng. TH Beedle Y Cyng. NA Burnett Y Cyng. PA Davies Y Cyng. KJ Watts Y Cyng. J Gebbie Y Cyng. B Sedgebeer Y Cyng. A Williams Y Cyng. L Walters N Echanis A Rothwell |
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganwyd y buddiannau canlynol:-
Datganodd y Cyng. R Storman fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Llywodraethwyr Cymunedol yn Ysgol Tynyrheol, Llangeinor.
Datganodd y Cyng. JP Blundell fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Llywodraethwyr Cymunedol yn Ysgol y Babanod Cefn Glas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Datganodd y Cyng. AJ Williams fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am ei fod yn Rhiant Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coety ac am fod ganddo fab yn Ysgol Brynteg.
Datganodd y Cyng. CA Webster fuddiant personol dan Eitem 3 yr Agenda am fod ganddi blentyn yn Ysgol Brynteg. |
|
Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad PDF 487 KB Gwahoddedigion
Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion Andy Rothwell – Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De Andrew Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a soniai wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 am ymateb drafft yr Awdurdod Lleol i'r argymhellion a bennwyd yn ystod arolygiad diweddar Estyn o wasanaeth addysg llywodraeth leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn gefndir i hyn oll, dywedodd fod Estyn wedi cynnal arolygiad o'r gwasanaethau addysg ym mis Mawrth 2019. Cadarnhaodd fod Estyn, drwy'r broses arolygu, wedi pennu pedwar argymhelliad y bydd gofyn i'r Awdurdod Lleol ymateb iddynt, ac mae'r argymhellion hyn i'w gweld ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofyn i'r Awdurdod Lleol gyflwyno Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad i Estyn erbyn 31 Awst 2019 a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â'r pedwar argymhelliad ac a fyddai’n ystyried y gwendidau a nodwyd drwy'r broses arolygu.
Roedd yr Awdurdod Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De wedi ystyried yr Adroddiad Arolygu, a oedd yn sail i'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn fanwl iawn a dangoswyd hyn yn Atodiad A yr adroddiad.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad yn manylu ar fwriadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â phedwar prif argymhelliad Estyn, yn ogystal â chynlluniau'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r meysydd i'w datblygu a godwyd yn yr adroddiad. Ystyriwyd bod y rhain yn gyfres o 'is-argymhellion'.
Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor na chafwyd llawer o gynnydd wrth gwrdd â'r rhan fwyaf o'r mesurau deilliant a gafwyd yng Ngherdyn Cynnydd Tymhorol y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad. Y prif reswm dros hyn oedd y ffaith i'r Adroddiad Arolygu gael ei gyhoeddi ar 31 Mai 2019 a daeth tymor yr ysgol i ben 7 wythnos yn ddiweddarach. Felly, nid oedd modd bwrw 'mlaen â phethau yn gynt oherwydd y seibiant 6 wythnos dros wyliau'r haf. Yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, byddai modd sicrhau gwell cynnydd yn nhymor yr hydref.
Daeth â'i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau y byddai'r Swyddogion yn trefnu bod adroddiadau tymhorol ffurfiol, a fydd yn sôn am y cynnydd yn unol â'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad, yn cael eu hanfon at y Gr?p Gwella Ysgolion.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol hefyd pe gellid rhannu peth o'r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Gr?p Gwella Ysgolion, ynghyd â chanfyddiadau'r Gr?p ei hun, â'r Aelodau ar ddiwedd pob tymor ysgol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gellid ystyried hyn mewn egwyddor.
Ychwanegodd mai un o nodau'r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad oedd creu cysylltiadau agos â'r broses Trosolwg a Chraffu yn hyn o beth, yn ogystal â pharatoi adroddiadau mwy cryno i'r Pwyllgor(au) yn y dyfodol.
Ym marn y Cadeirydd, roedd yr Adroddiad Ôl-Arolygiad hwn yn dda a chadarnhaol iawn ar y cyfan. Roedd felly'n bwysig ei fod yn cael ei rannu â phobl megis plant, rhieni, gofalwyr, athrawon ac â phob cynulleidfa briodol ehangach arall.
Casgliad:
Roedd y cynigion a gafwyd yn y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad mewn perthynas ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77. |
|
Adborth yn sgil Cyfarfodydd PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheolaethol adroddiad a oedd yn cynnwys adborth yn sgil cyfarfod blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 i'w drafod, ei gymeradwyo a gweithredu arno. Ei nod hefyd oedd rhoi statws Coch, Melyn a Gwyrdd i'r sylwadau hyn o ran y camau gweithredu dilynol, fel a ganlyn:-
Coch - ni chafwyd dim ymateb. Melyn - mae'r Aelodau o'r farn bod angen gweithredu yn sgil yr argymhelliad/sylwad, e.e. mae argymhelliad wedi'i dderbyn ond byddai'n rhaid gweld ymhen amser a weithredwyd ar yr argymhelliad/sylw. Gwyrdd - mae'r Aelodau o'r farn y cafwyd ymateb addas ac na fydd angen cymryd camau dilynol.
Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad A yr adroddiad a roddai sylw i’r adborth a'r ymatebion i sylwadau a chasgliadau'r Pwyllgor, yn sgil argymhelliad yr Aelodau yn y cyfarfod blaenorol. Gofynnodd hefyd i'r sylwadau hyn gael statws Coch, Melyn a Gwyrdd, yn unol â'r fformiwla uchod.
Ystyriodd y Pwyllgor adborth ac ymatebion y Swyddogion a rhoddwyd statws Coch, Melyn a Gwyrdd i'r meysydd gwaith, fel a ganlyn:
Argymhellion:
Hyfforddiant i Lywodraethwyr - Dylai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ymchwilio i gynnwys y modiwlau e-ddysgu gyda Chonsortiwm Canolbarth y De - Melyn
Hyfforddiant i Lywodraethwyr - Datblygu hyfforddiant ar-lein gan ddefnyddio HWB - Melyn
Ehangu arolygon staff y dyfodol fel eu bod yn cynnwys staff ysgolion - Coch
Cyflwyniad i'r Cyngor am y Rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc - Coch
Trefnu bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc yn cwrdd i ystyried Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad Estyn - Gwyrdd
Tabl gwybodaeth sy'n dangos y disgyblion hynny sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig - Gwyrdd
Daethpwyd â'r cyfarfod i ben am 13:02 |