Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Gwener, 26ain Mai, 2023 11:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 370 KB

Derbyncofnodion cyfarfod 10 10 2022 a 19 01 2023 i’w cymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

.PENDERFYNWYD:                  Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 1 a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

17.

Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2023-2026 pdf eicon PDF 136 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Gaynor Thomas - Rheolwr Rhaglen Ysgolion

Robin Davies – Rheolwr Gr?p Cymorth Busnes

Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Cymorth i Deuluoedd

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Natalie Gould - Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cwricwlwm a Dysgu Proffesiynol      

Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Nicole Goggin-Jones – Prifathro – Ysgol Gynradd Nantyfyllon

Mike Street – Prifathro – Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai

 

Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun BryntirionCadeirydd BASH

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr adroddiad, a’i ddiben oedd  rhoi cyfle i’r Pwyllgor weld a chynnig sylwadau ynghylch y fersiwn drafft o Gynllun Strategol 2023-2026 y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’r Gwahoddedigion a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

·        Y 15 thema strategol a nodwyd sy’n sail i’r cynllun strategol tair blynedd, gan drafod:

 

-        Naratifau'r themâu hynny

-        Y dangosyddion llwyddiant: sut y cawsant eu mesur yn gywir, a safoni prosesau ar gyfer ysgolion

-        Y manylion yn y cynllun a sut y cyflawnwyd themâu, a'r cymorth a gynyddwyd

-        Dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd

-        Data wedi’u cydgrynhoi er mwyn cymharu

-        Hyfforddi Swyddogion

 

·        Presenoldeb disgyblion, lefelau absenoldeb, perchnogaeth presenoldeb a chyfrifoldeb.

 

·        Modiwlau hyfforddi statudol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion a hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael a pha un ai a ddylai mwy o hyfforddiant fod yn orfodol.

 

·        Ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn rhai adeiladau ysgol h?n, cynnydd mewn biliau cyfleustodau a pha gymorth oedd ar gael.

 

·        Cynnydd o ran hyfedredd yn y Gymraeg ymhlith pobl iau ac oedolion, ystyried cyflwyno dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg, dyhead yr Awdurdod Lleol i gynyddu nifer y dysgwyr yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg a darpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol. 

 

·        Canllawiau hunanwerthuso CAMG a sut y gallai statws pob thema wella dros gyfnod y cynllun strategol.

 

·        Y galw am wasanaethau cwnsela i blant a rhieni a’r amseroedd aros, cymorth arbenigol i’r dysgwyr hyn a’r dadansoddiad mapio a chanfod bylchau a gynhaliwyd i weld pa gymorth a oedd ar gael ac i nodi unrhyw fylchau.

 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd rhagor o gwestiynau gwahoddedigion i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd y gallent adael y cyfarfod

 

PENDERFYNWYD:            Ar ôl ystyried yn fanwl a thrafod ag Aelodau’r Cabinet a Swyddogion, cynigiodd y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

1.    Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch cadw staff ysgolion a'u llesiant. Fe wnaethant drafod pwysigrwydd y cymorth a gâi disgyblion ar gyfer eu llesiant ac roeddent yn credu y dylai llesiant staff fod yn flaenoriaeth gyfartal. Argymhellodd yr aelodau y dylid cryfhau'r naratif ynghylch y cymorth ar gyfer staff yn T1 Lles disgyblion a staff i adlewyrchu hyn.

2.     Yn ystod trafodaethau ynghylch presenoldeb disgyblion a lefelau absenoldeb, gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r rhesymau dros absenoldeb a nifer yr absenoldebau ac fe wnaethant argymell y dylid cynnyws y rhain yn y Cynllun.

3.     Fe wnaeth yr aelodau ystyried y dangosyddion llwyddiant yn ymwneud â T2 Cymorth ar gyfer ymddygiad, presenoldeb a gwaharddiadau disgyblion a phwysleisiwyd na fyddai asesu cynnydd tuag at gyflawni'r amcan 'gostyngiad mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol' yn ystyrlon oni byddai pob ysgol yn cadw at y Polisi Presenoldeb Ysgolion i sicrhau cysondeb. Argymhellodd yr Aelodau y dylid cyfeirio at Bolisi safonol ynghylch Gwaharddiadau yn y Cynllun i gynnig sicrwydd o ran y data a ddarperid a sicrhau y gellid mesur y gwelliannau yn gywir.

4.     Argymhellodd yr aelodau y dylid cynnws mwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.

18.

Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth ySwyddog Craffu gyflwyno’r adroddiad a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod yn Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel gwahoddai yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau, ac yna,

 

PENDERFYNWYD:        Y dylid enwebu’r Cynghorydd Richard Collins i gynrychioli Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 fel Gwahoddai yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

19.

Eitemau Brys

Ystyriedunrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn eu cylch

ynunol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai, oherwydd amgylchiadau arbennig, gael ei drafod yn y cyfarfod fel mater o frys.

 

 

Cofnodion:

Dim.