Lleoliad: o bell trwy Timau Microsoft
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148.
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Nicole Burnett fuddiant personol yn eitem 4 fel cyd-riant plentyn a oedd newydd ddechrau’r broses bontio. |
|
Cadarnhau Cofnodion PDF 230 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 21 04 21
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 ar 24 Ebrill 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.
|
|
Gwahoddwyr:
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol Pete Tyson - Rheolwr Grwp - Comisiynu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles o’r enw 'Ailosod Rhaglen Strategol Busnes Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (SSWB)', ac eglurodd y byddai'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant a’r Rheolwr Gr?p - Atal a Lles oll yn fodlon i ateb cwestiynau gan yr Aelodau yn dilyn y cyflwyniad.
Wedi i’r adroddiad gael ei gyflwyno, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor y cwestiynau canlynol:
Cyfeiriodd Aelod at yr ymrwymiad i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gofalwr, a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni yn y gwasanaethau a gomisiynwyd. Roedd hi'n hoff o ddulliau sy'n ffocysu ar yr unigolyn, ond gofynnodd sut byddai hynny’n edrych unwaith y bydd wedi’i gyflawni. Roedd yr Aelod yn ymwybodol o'r problemau o ran recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, yn enwedig o ran taliadau atodol ar sail y farchnad, ac roedd yn cydnabod fod hyn yn broblem enfawr. Gofynnodd hefyd sut y byddai sefyllfa sero net a charbon niwtral yn cael ei gyflawni mewn perthynas â’r SSWB a sut y byddai Iechyd yn cyfrannu at hynny.
Gofynnodd Aelod hefyd, mewn perthynas â recriwtio, a oedd yr awdurdod lleol yn ddibynnol ar asiantaethau, a faint yn fwy y byddai staff asiantaeth yn ei dderbyn fel tâl.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ymrwymiad wedi'i wneud, a bod adroddiad wedi’i gyflwyno i'r Cabinet ynghylch sut y gosodwyd y cyflog byw gwirioneddol ymlaen llaw fel rhan o'r broses a gomisiynwyd. Felly, roedd y ffordd yr oedd yr awdurdod lleol yn comisiynu wedi newid, ac roedd adroddiad ar ei ffordd i'r Cabinet ar sut y byddai'r broses yn cael ei newid o ran gofal seibiant. Yn hytrach na mynd allan a chomisiynu a chreu ras i'r gwaelod o ran pris a thâl, yr awdurdod lleol fydd yn pennu'r gyfradd gyflog ddisgwyliedig ac yna byddai gweddill y tendr yn cael ei farcio ar ansawdd. Yr adborth oedd y byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i weithwyr ac y byddai'n gymorth mawr wrth gadw staff yn y sector gofal. Yn dilyn cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol roedd wedi gofyn am amserlen o ran pryd y byddai cyllid ar gyfer cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn cyrraedd, a chafodd gadarnhad y byddai'n sicrhau y byddai'n cael ei flaenoriaethu ac y byddai'n cael ei gyflwyno. Dywedodd yr Aelod Cabinet mai hanfod y peth, yn ei barn hi, oedd gwobrwyo'r rhai sydd yn gofalu am bobl. Roedd yr awdurdod lleol yn gwneud cymaint ag y gallai ond roedd hwn yn bwysau cyllidebol enfawr y byddai angen ei gario i’r dyfodol.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod ganddi gyfrifoldeb dros y gweithlu ar draws y sector cyfan ac mai hynny oedd ei chyfrifoldeb pennaf, felly roedd yn hynod galonogol cael cefnogaeth Craffu ynghylch rhai o'r pethau yr oeddent yn ceisio eu datblygu. O ran y dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, roedd llawer o'r targedau a'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145. |
|
Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith PDF 418 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar ôl ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Rhaglen Waith, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol:
1. Y dylid anfon llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn am ymateb i gais am wybodaeth yngl?n â'r adroddiad Diogelu a dderbyniwyd yn y Pwyllgor ym mis Ebrill.
Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith, gan roi sylw i'r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol fel rhan o’r eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, wedi nodi y byddai'r Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC, ac wedi nodi'r Daflen Argymhelliad Gweithredu Monitro yn Atodiad B. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |