Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Della Hughes a Jane Gebbie fuddiant personol yn eitem 4 ar yr Agenda fel gofalwyr di-dâl. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 271 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03 11 22 a 20 01 23
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2, dyddiedig 3 Tachwedd 2022 a 20 Ionawr 2023, fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion. PDF 197 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – DirprwyArweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant
Andrew Thomas - Rheolwr Grwp – Atal a Lles Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth – Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Kathy Proudfoot – Swyddog Datblygu Gofalwyr Sophie Moore - Rheolwr Lles - Byw'n Iach
Ryan Statton - Rheolwr Cymunedau Egnïol, Halo Leisure Ceri Evans - Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau, Awen Gareth Howells - Prif Swyddog Gweithredu, TuVida Jenny Park – Cyfarwyddwr Gofal a Gwasanaethau, TuVida
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol –
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben
oedd hysbysu’r Pwyllgor am ofynion Siarter y Gofalwyr yng
Nghymru a’r meysydd ffocws cysylltiedig a all gefnogi
gofalwyr di-dâl i gynnal eu llesiant a disgrifio’r
gwaith sy'n cael ei wneud ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i
gefnogi gofalwyr di-dâl, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i
ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor, a'i bartneriaid, yn cefnogi
gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion. Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi gofalwyr ifanc i barhau â'u haddysg ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. · Polisïau Gofalwyr Ifanc Ysgolion a chymorth ymarferol mewn ysgolion gan gynnwys cymorth gyda gwaith a cheisiadau am amser ychwanegol ar gyfer arholiadau. · Yr heriau a wynebwyd gan ofalwyr ifanc yn ystod y pandemig, yn aros adref gyda holl aelodau'r teulu heb unrhyw ofal seibiant. · Dywedodd y gofalwr ifanc wrth yr Aelodau ei bod yn gweld cadw at drefn, mynd am dro a chymryd rhan mewn gwersi ar-lein yn ddefnyddiol. Teimlai hefyd, ers y pandemig, fod buddion y Cerdyn Gofalwr Ifanc wedi gwella pethau’n wirioneddol a’i bod wedi canfod gwerth gwirioneddol yn y Rhwydwaith. · Unrhyw welliannau angenrheidiol i gefnogi gofalwyr ifanc yn dangos pwysigrwydd eu canfod a mewnbwn gan Gr?p Llywio’r Gofalwyr Ifanc. · Datblygiad cymorth dementia a gwaith ymgysylltu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyda mewnbwn gan Gydlynydd Dementia i lywio cynlluniau a gwasanaethau lleol a rhanbarthol. · Nifer a ffynhonnell yr atgyfeiriadau i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, canran y gofalwyr oedd yn derbyn cyngor a chymorth a nifer a chanlyniadau asesiadau llawn o anghenion gofalwyr. · Nifer asesiadau gofalwyr ifanc a faint oedd yr Awdurdod yn gwybod amdanynt eisoes. · Gweithredir cyllid ar gyfer y cymorth drwy Whitehead Ross a'i ffocws ar anghenion unigol gofalwyr ifanc. · Argaeledd Cardiau Gofalwyr i oedolion drwy’r gwasanaeth newydd a gomisiynwyd o 1 Ebrill 2023, TuVida. · Nifer ac amrywiaeth y gofalwyr oedd yn gwneud sylwadau cadarnhaol am y rhaglenni Lles Gofalwyr a Seibiant a Theimlo'n Dda am Oes. · Diweddariad ar fenter lwyddiannus Croeso Cynnes a'r ystod eang o adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael. · Canfod mwy o ofalwyr a rôl cymunedau a Chydlynwyr Cymunedol. · Maint y cymorth cymunedol yn ystod y pandemig a phwysigrwydd gwasanaethau ataliol a gwasanaethau statudol amserol, pan fo angen.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr Eitem ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32. |
|
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant Iain McMillan – Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant Raeanna Grainger - Rheolwr Gr?p, IAA a Diogelu
Tracey Shepherd - Uwch Reolwr - Tim Arolygu Awdurdodau Lleol - Arolygiaeth Gofal Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am eu hymweliad gwirio gwelliant â Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod mis Tachwedd 2022 a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi’i ddiweddaru.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Diolch i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei gyfnod gyda’r Awdurdod. · Nifer y meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen gweithredu pellach a'r gyllideb angenrheidiol i gefnogi'r gwelliannau gan amlygu cost staff asiantaeth a gweithrediad parhaus model yr Arwyddion Diogelwch. · Gellid disgwyl ymweliadau gyda rhybudd ac ymweliadau dirybudd gan AGC i fonitro cynnydd a dylai ymarfer fod o’r safon a ffefrir p'un a oedd y Gwasanaeth yn cael ei arolygu ai peidio. · Mae taith gwella'r Gwasanaeth yn gofyn am arweiniad strategol â ffocws a buddsoddiad cynaliadwy dros amser a'r angen i gael y model ymarfer yn gywir. · Meysydd o bwysau sy’n nodweddiadol ar draws yr holl awdurdodau megis heriau recriwtio, a meysydd sy’n annodweddiadol, megis y cynnydd mewn atgyfeiriadau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant, ar lefel y nododd dadansoddiad gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus fyddai’n debygol o barhau am 2 flynedd o leiaf. · Niferoedd a rheolaeth achosion agored o fewn pob un o'r canolfannau lleol a chofnodi atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA). · Mentrau i wella recriwtio gan gynnwys prentisiaethau, recriwtio rhyngwladol, buddsoddi mewn Tyfu ein rhai ni ein hunain a gweithredu rolau Swyddogion Cymorth Gwaith Cymdeithasol a phryderon ynghylch bylchau mewn rhai gwasanaethau a dibyniaeth ar staff asiantaeth sydd angen gweithredu parhaus. · Y cyd-destun o amgylch y statws glas, coch, ambr, gwyrdd (BRAG) a briodolir i bob ‘maes i’w wella’ yng Nghynllun Gweithredu’r Gyfarwyddiaeth. · Digonolrwydd lleoliadau gan gynnwys yr agenda dileu elw a defnyddio lleoliadau heb eu cofrestru a lleoliadau y tu allan i'r sir. · Y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â mater blaenoriaeth camfanteisio ar blant, gan gynnwys gwaith rhanbarthol a gweithio mewn partneriaeth. · Yr adolygiad cyflym a mesurau i wella cyswllt dan oruchwyliaeth rhwng plant sydd â phrofiad o ofal a'u teuluoedd.
Diolchodd y Pwyllgor i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei amser gyda’r Awdurdod a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Mynegwyd pryder ynghylch cynaladwyedd y gyllideb i gynnal y pwysau cyllidebol yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid dechrau'r broses o osod y gyllideb yn gynt er mwyn cael mewnbwn trawsbleidiol i gynorthwyo'r Cabinet yn yr hyn a allai fod yn Strategaeth Ariannol Tymor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fynychu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfod blaenorol yn Atodiad B. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.
Gofynnodd yr Aelodau am i'r adroddiad ynghylch Ymyrraeth Gynnar i Leihau nifer y Plant sydd â Phrofiad o Ofal, a Phwysau Allweddol gan gynnwys IAA, gael ei drefnu cyn gynted â phosibl a chroesawyd sesiwn briffio i'r Aelodau ar yr Adolygiad Ymarfer Plant diweddar.
Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys y ceisiadau uchod, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B, ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |