Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau
Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: |
|
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
Sophie Moore - Rheolwr Lles - Byw'n Iach Sarah Rossington Harris - Rheolwr Lles – Cymunedau Cysylltiedig Karen Winch - Rheolwr Lles – Pobl Ifanc Egnïol
Halo Leisure Scott Rolfe - Prif Weithredwr Simon Gwynne - Partnership Manager
Awen Richard Hughes - Prif Weithredwr
BAVO Kay Baker – Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y ffordd y mae gwasanaethau a chyfleoedd sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Hamdden Halo ac Awen yn cefnogi lles unigolion a chymunedau ac yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor, a rhoi gwybodaeth am y gwaith partneriaeth sy'n cael ei ddatblygu gyda BAVO a'r trydydd sector ehangach i gefnogi pobl yn eu cymunedau a datblygu cymunedau iach a hapus.
Cyflwynodd y gwahoddedigion o sefydliadau partner, Hamdden Halo, Awen a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) eu hunain a rhoi crynodebau byr am ymwneud eu sefydliad â’r Cyngor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Gwahoddedigion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Pwysigrwydd cyfleusterau hamdden a diwylliannol mewn cymunedau, sut y gellid hyrwyddo llyfrgelloedd yn well a'r adnoddau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol gan gynnwys llyfrau, DVDs, gwybodaeth hanesyddol ac archifau a chyfleusterau TGCh. · Yr ardaloedd a gwmpesir gan y gwasanaeth llyfrgell symudol ‘Llyfrau ar Glud’ ac ymweliad posibl Aelodau â’r cyfleuster. · Manteision, o ran iechyd ac arian, darparu gwasanaethau hamdden a diwylliannol anstatudol, y graddau y mae gwasanaethau atal a llesiant yn atal rhag gwaethygu i ddibynnu ar wasanaethau statudol, a gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru o’r rhaglen ymyrraeth gynnar. · Pwysigrwydd cynaladwyedd gwasanaethau a’u darparu’n lleol, elw cymdeithasol ar fuddsoddiad a dealltwriaeth o'r agenda 15 munud a gwybodaeth anghywir yn ei chylch. · Lefelau’r rhai sy’n ymweld â chyfleusterau hamdden a hybiau cymunedol cyn ac ôl-bandemig, manteision aelodaeth am ddim neu ostyngol sydd ar gael a’r awydd i gynyddu cyfranogaeth. · Sicrhau hygyrchedd, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, pwysau costau ynni uwch a chwyddiant, a sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr yn cael eu cynnal ag arian grant a buddsoddiad, gan gynnwys buddsoddiad i sicrhau effeithlonrwydd ynni. · Adroddiadau bod canolfannau penodol yn cau a pha mor aml y caiff boddhad cwsmeriaid ei fesur. · Y Cyllid Lefelu i sicrhau dyfodol Pafiliwn y Grand a maint y gwaith adnewyddu arfaethedig. · Manteision cynlluniau atgyfeirio a’u hysbysebu’n effeithiol a rhaglenni penodol fel Pobl Ifanc Egnïol Pen-y-bont ar Ogwr, Partneriaeth Byw'n Iach, Henoed Gwych, Esgyniad a Pharth Teuluoedd Egnïol. · Pwysigrwydd grwpiau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau elusennol a gwirfoddol, sy’n cynorthwyo cymunedau i wneud mwy drostynt eu hunain a rolau BAVO a Chydlynwyr Cymunedol Lleol. · Cynaladwyedd hirdymor ac adnoddau a phwysigrwydd cydweithio llwyddiannus a gweithio mewn partneriaeth i gyfrannu at amcanion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyfrifoldebau rhianta corfforaethol. · Her Ddarllen yr Haf a lansiwyd yn ddiweddar a mentrau eraill i annog a chefnogi llythrennedd. · Gwersi a ddysgwyd o ganolfannau cynnes.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am gael:
1. Trefnu ymweliad i Aelodau'r Pwyllgor â gwasanaeth llyfrgell deithiol Llyfrau ar Glud i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 38. |
|
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant David Wright – Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor y cynllun 3 blynedd i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bwriadwyd iddo fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu dros yr haf cyn ei gyflwyno i'r Cabinet yn yr Hydref i'w gymeradwyo. Tynnodd sylw at y ffordd y cafodd y cynllun ei ddatblygu a'i amcanion.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Trosolwg ar y trefniadau staffio ym maes Gofal Cymdeithasol Plant, cyflogi staff asiantaeth i wneud i fyny am swyddi gwag a rhoi adnoddau i dimau uwchlaw’r sefydliad i gyflawni cyfrifoldebau statudol. · Lefelau llwythi achosion ymarferwyr, lefelau gwahanol o ddwysedd a’r angen i weithio’n effeithlon, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. · Y thema strategol, 'Cudd-wybodaeth a systemau gwybodaeth gwell', y systemau TGCh a ddefnyddir gan asiantaethau amrywiol, y prosiect i wella WCCIS a diweddariad ar weithredu model ymarfer Arwyddion Diogelwch gan gynnwys ei rôl yn gwella'r arfer o gofnodi gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n ystyrlon ac yn amserol. · Cost gweithredu'r Cynllun, a byddai'r manylion am hyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet, gwariant drwy gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a gorwariant ac effaith demograffeg ar geisiadau am arian grant. · Sicrhau mynediad at gymorth cyn-statudol i blant a theuluoedd a’r ystod o ffactorau sy’n cyfrannu at y cynnydd sylweddol yn y galw am ofal cymdeithasol statudol plant gan gynnwys y cyhoeddusrwydd i drychinebau lleol diweddar, effaith y pandemig ac ymwybyddiaeth broffesiynol. · Gwaith partneriaeth di-dor yn hanfodol i weithrediad y Cynllun. · Symleiddio'r trefniadau cyswllt i osgoi dryswch ynghylch gwasanaethau ac â phwy i gysylltu. · P’un ai’r saith thema strategol a nodir yn y Cynllun oedd y rhai cywir a’r cyfan yn gweithio gyda’i gilydd. · Fformat y tabl ‘Camau gweithredu allweddol tair blynedd fesul blwyddyn’, y posibilrwydd o gynnwys mesurau ychwanegol a sut y caiff y Cynllun ei fonitro.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol:
a gofynnodd y Pwyllgor:
2. am i’r Pwyllgor gael derbyn diweddariad chwarterol ar weithrediad y Cynllun.
am eglurder ynghylch sut mae'r ddemograffeg, y proffil oedran, amddifadedd ac unrhyw ffactorau eraill yn effeithio ar y fformiwla ar gyfer ceisiadau am arian grant. |
|
Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol PDF 131 KB Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau, ac yn dilyn hynny
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd Maxine Lewis i gynrychioli Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 fel un i gael ei gwahodd i gyfarfodydd Pwyllgor y Cabinet ar Rianta Corfforaethol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r adroddiad, a’i bwrpas oedd cyflwyno i'r Pwyllgor ymateb y Cabinet i'r Argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor pan gafodd Penderfyniad y Cabinet ar 18 Hydref 2022 ei alw i mewn, mewn perthynas â'r adroddiad ar Adfywio Glannau Porthcawl: Meddiannu Tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay, a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 17 Ionawr 2023.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ymateb y Cabinet oedd ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.6 a Dangosfwrdd Perfformiad SSWB yn Atodiad 3. Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad B a gofynnodd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.
Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan ystyried y meini prawf dewis ym mharagraff 3.6, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi’r Flaenraglen Waith yn Atodiad, A, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B, ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC. |
|
Eitemau Brys Ystyried unrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn eu cylch yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai, oherwydd amgylchiadau arbennig, gael ei drafod yn y cyfarfod fel mater o frys. Cofnodion: Dim. |