Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Cynigiwyd; eiliwyd yn briodol a derbyniwyd yn unfrydol, y bydd y Cynghorydd Gebbie yn cael ei henwebu yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Y bydd y Cynghorydd Gebbie yn cael ei hethol yn Gadeirydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2. |
|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Y Cynghorydd Mike Clarke, y Cynghorydd Pam Davies, y Cynghorydd Sorrel Dendy, y Cynghorydd Cheryl Green, y Cynghorydd Martyn Jones, y Cynghorydd Mike Kearn, y Cynghorydd Janice Lewis, y Cynghorydd Stephen Smith, y Cynghorydd David White, Michelle King |
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 69 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 22/1/20 a 5/2/20.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 dyddiedig 22 Ionawr 2020 a 5 Chwefror 2020 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Rhaglen Drawsnewid – Cyflymu Cyflymder y Newid ar gyfer Gwasanaethau Integredig (CCNGI) PDF 929 KB Gwahoddedigion: Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Andrew Thomas, Rheolwr Grwp , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol Carmel Donovan, Rheolwr Grwp, Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Rhwydweithiau Cymunedol Michelle King, Rheolwr Grwp, Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Adnodd Cymunedol Heidi Bennett, Prif Weithredwr - BAVO Kay Harries, Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaethau - BAVO Anthony Hughes, Pennaeth Swyddfa Rheoli Rhaglen y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Cofnodion: Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i'r Aelodau y byddai cyflwyniad byr. Tynnodd sylw'r Aelodau at dudalen 13 o'r adroddiad, ac yn arbennig 3.1, Cymru Iachach – Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cynllun wedi ei lunio o amgylch 'Y Nod Pedwarplyg' - pedair thema gysylltiedig.
Gwnaeth y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cymunedol Integredig – Rhwydweithiau Cymunedol – a’r Rheolwr Gr?p – Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol gyflwyno trosolwg o'r Rhaglen Drawsnewid.
Yn dilyn y cyflwyniad, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i Aelodau, ar ôl clywed cyflwyniad am ehangu gwasanaethau, rwy'n gwybod y bydd pryderon o ran sut rydym yn ymdopi ar y funud a blaenoriaethau i gyflenwi'r gwasanaeth yn sgil argyfwng y coronafeirws sy'n bodoli eisoes. Byddwch yn ymwybodol fod y Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn cyfarfod yn ddyddiol wrth i'r mater newid yn ddyddiol a hynny'n llifo yn ôl i'r gwahanol Gyfarwyddiaethau. O ran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae gan yr holl dimau gynlluniau parhad busnes ac mae'r rheiny wedi cael eu diweddaru ac mae rheolwyr wedi cwmpasu eu staff a'r gr?p cleientiaid maent yn gweithio ag ef i edrych ar flaenoriaethau hanfodol, deall sefyllfaoedd teuluoedd, neu i'r rheiny sydd â rhwydweithiau prin o'u hamgylch, gydag unigolion.
Rydym wedi gwneud proffil ar symudedd staff a lle maent yn byw. Rhaglen hyfforddi llwybr cyflym, gwneud yn si?r bod gennym weithlu i barhau i gyflenwi – adeiladu ein gweithlu ac adleoli ein staff ar draws y cyngor a byddwn yn edrych ar adleoli staff y trydydd sector neu staff sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Gwnawn anelu i wahanu staff, lle bo hynny'n bosibl fel y gallant weithio gartref. Hefyd timau o staff ond wedi'u rhannu’n grwpiau llai, yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn naturiol, mae gwasanaethau gofal dydd a seibiant mewn cysylltiad â phobl ac yn edrych ar bwy sy’n defnyddio’r gwasanaeth gofal seibiant gyda dull cynlluniedig. Rydym yn gweithio drwy hyn yn drefnus, ac yn gynlluniedig, nid drwy ruthro. Mae gan gynghorau eu blaenoriaethau. Mae sicrwydd fod gennym gysylltiad agos a pherthynas dda gyda'n cydweithwyr iechyd a bydd cyfarfod am 2pm heddiw o ran cyfathrebu.
Cododd Aelod bryder mewn perthynas â sicrhau y byddai'r rhai sy'n dod i gysylltiad â phobl fregus neu h?n yn cael gwiriad DBS priodol, neu debyg, a gofynnodd a oedd dull cydgysylltiedig o wneud hyn? Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai dyma lle yr oedd cymunedau yn chwarae rhan flaenllaw gan na allwn blismona popeth, ond roedd yn deall pryder yr Aelod. Gwnaeth y Prif Weithredwr – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, gydnabod bod diogelu yn broblem. Eglurodd fod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, fel sefydliad, yn chwilio am bobl i gofrestru yn ffurfiol drwy'r wefan. Roeddynt hefyd yn cyhoeddi a chyfeirio at ganllawiau ac yn cysylltu pobl i grwpiau â strwythurau llywodraethu da ar waith.
Cyfeiriodd Aelod at y gofrestrfa wirfoddoli yr oedd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 116. |
|
Trosolwg a Chraffu - Adborth o gyfarfodydd PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn darparu adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 mewn perthynas â'r eitemau ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-2021 i 2023-2024 (Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) ar gyfer trafodaeth, cymeradwyaeth a gweithredu.
Aelodau i adolygu'r adborth ar gyfer cymeradwyaeth a gweithredu'r eitemau uchod, yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2.
|
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn amlinellu'r eitemau nesaf i'w hystyried gan y Pwyllgor. Y rhain oedd Teithio gan Ddysgwyr/ Addysg Ôl-16 ar 19 Mawrth ac Ailfodelu Gwasanaethau Preswyl i Blant ar 20 Ebrill.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim un |