Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Diweddariad ar y Blaenraglen Waith Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn nodi’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf i’w dirprwyo i’r Pwyllgor hwn. Hefyd cyflwynodd restr o eitemau posibl i’r Pwyllgor ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu a gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf. Gofynnwyd i aelodau hefyd gymeradwyo’r adborth o’r cyfarfodydd blaenorol a’r rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai sy’n weddill.
Esboniodd y Swyddog Craffu y byddai Gofal Demensia yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Ebrill 2018 a bod Diwygio ADY wedi’i ddirprwyo i SOSC 2.
CASGLIADAU:
Gwnaeth y Pwyllgor gymeradwyo a nodi'r adborth a dderbyniwyd gan gynnwys y pwyntiau sy'n dal yn weddill.
Gofal Demensia Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwahodd cynrychiolydd iechyd meddwl i fod yn bresennol yn ei gyfarfod nesaf ynghylch Gofal Demensia.
Tai Brys Gofynnodd aelodau i gael gwahodd cynrychiolydd iechyd meddwl yn ogystal â chynrychiolydd o Elusen/Sefydliad Digartrefedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ynghylch Tai Brys.
Effaith Gyllidebol Carchar Parc Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwahodd cynrychiolydd addysgol i fod yn bresennol yn y cyfarfod mewn cysylltiad â Charchar Parc a phwy allai gyflwyno tystiolaeth am yr effaith addysg yng Ngharchar Parc.
Gwastraff Dymunodd aelodau ychwanegu'r cwestiynau canlynol at yr eitem am Wastraff: · Sut y casglwyd pwyntiau sy’n arwain at ddirwyon? · Faint o sesiynau hyfforddiant a gynhaliwyd ers i’r Pwyllgor Craffu dderbyn yr eitem ddiwethaf? · Pa mor effeithiol oedd y cynllun bag ychwanegol?
Priffyrdd Mewn perthynas â'r eitem a gynigiwyd i'r Gwasanaethau Priffyrdd, gofynnodd y Pwyllgor i gael ychwanegu’r pwyntiau canlynol at y cais am adroddiad: · Sut cydweithiodd yr ALl â’r Heddlu i nodi gwelliannau i’r ffordd? · Sut y blaenoriaethwyd gwaith? · Sut cydweithiodd yr ALl ag ysgolion o ran diogelwch ar y ffyrdd?
Nododd y Pwyllgor eitem ychwanegol, sef Trawsnewid Digidol ar gyfer y Flaenraglen Waith. Cytunodd y Swyddog Craffu i anfon ffurflen meini prawf fel y gellid ymhelaethu ar yr eitem ar gyfer ystyriaeth a chytuno yn y dyfodol ar y Flaenraglen Waith.
|
|
Atal a Llesiant a Chydlynu Cymunedol Lleol PDF 822 KB Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Cllr Dhanisha Patel, Aelod Cabinet – Lles ac Genedlaethau Fyfodol Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Andrew Thomas, Rheolwr Grwp – Atal a Lles Geoff Cheetham – Fforwm Pobol Hyn/fform Pobl Hyn, Penybont ar Ogwr Kay Harries, Rheolwr Partneriaeth a Phrosiectau, BAVO Zoe Wallace, Pennaeth Gofal Sylfaenol, Uned Gyflenwi Gwasanaethau Cynunedol a Chynradd
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad ar ystod y gwasanaethau atal a llesiant a’r cyfleoedd yn y gymuned ar gyfer cefnogaeth a oedd yn cael eu datblygu a’u harwyddocâd strategol. Croesawyd Z Wallace, Pennaeth Gofal Sylfaenol, Uned Gyflenwi Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol, G Cheetham, Fforwm Pobl H?n Cymru/Fforwm Pobl H?n Pen-y-bont ar Ogwr a K Harries, Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau, BAVO.
Amlinellodd y Rheolwr Gr?p Atal a Llesiant yr heriau gan gynnwys y fframwaith deddfwriaethol, materion iechyd a llesiant, y ffactorau risg, heneiddio’n dda yng Nghymru, toriadau a thrawsnewid a sut y byddai adeiladu cymunedol yn gweithio. Rhoddodd enghreifftiau o brosiectau lleol gan gynnwys y Caffi Cruse/Comfort yn Ogwr, a’r Ardd Pili Pala yn Garw. Amlinellodd ystyriaeth am wella llesiant a sut y gellid mesur y “cyfoeth lles” a grëwyd. Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys darnau o’r rhaglen Olympage ac Ymddiriedolaeth y Fonesig Kelly Homes a hyrwyddo agwedd aml-genhedlaeth rhai prosiectau.
Amlinellodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad gan gynnwys y ddeddfwriaeth, arweinyddiaeth atal a llesiant, cydlynu cymunedol lleol, datblygu cymunedol sy’n ystyriol o oedran, gweithio gyda mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a chydfuddiannol, adeiladu cymunedau gwydn, gwybodaeth a chyngor a rhaglenni Pen-y-bont ar Ogwr gweithredol. Dangosodd atodiad at yr adroddiad y grwpiau amrywiol i bobl sy’n rhan o’r prosiectau a sut y daethant yn fwy gwydn drwy gydweithio. Nodwyd arian i gynorthwyo tair ardal yn y cymoedd â’r gofynion trafnidiaeth a sefydlwyd gr?p llywio i fwrw ymlaen â’r prosiect. Cyfeiriodd at fentrau Halo ac Anwen a’r cynllun atgyfeirio ymarfer corff ac at adeiladu gwydnwch o fewn y cymunedau.
Gofynnodd aelod am gywirdeb y datganiad bod 75% o fenywod a thraean o ddynion dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain. Cytunodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion i wirio ffynhonnell y wybodaeth.
Mynegodd aelod bryderon am y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer gwasanaeth dan arweiniad y gymuned a’r disgwyliad y byddent yn parhau i gael capasiti yn y dyfodol. Esboniodd y Rheolwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod hi’n her wirioneddol i sicrhau y gellid cynnal y dull hwn. Derbyniwyd cyllid grant hyd yn hyn a byddai bidiau’n parhau i gael eu cyflwyno. Roedd angen gwaith cynllunio gweithlu a recriwtio i sicrhau y cymysgedd sgiliau priodol. Roedd gwaith yn cael ei wneud mewn cysylltiad â’r trydydd sector, sut oedd gwaith yn cael ei gomisiynu a sut oedd yr awdurdod yn ymgysylltu ag eraill. Ychwanegodd y Rheolwr Gr?p Atal a Llesiant ei bod hi’n her nodi buddsoddiad, a'r etifeddiaeth y byddai'n ei adael. Roedd angen cynaliadwyedd hirdymor ac ni fyddai hyn o reidrwydd yn rhad nac yn sydyn. Cytunodd y Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau ar gyfer BAVO fod pryderon ynghylch cyllid a chroesawodd waith partneriaeth. Ychwanegodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod angen amrywiaeth o fentrau, rhai mawr a bach a drwy roi cefnogaeth i gychwyn byddent yn gallu mynd ymlaen yn dilyn hynny i ddatblygu eu hunain.
Cyfeiriodd aelod at y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33. |
|
Diweddariad Rhaglen Gwaith PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diweddariad ar y Blaenraglen Waith Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn nodi’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf i’w dirprwyo i’r Pwyllgor hwn. Hefyd cyflwynodd restr o eitemau posibl i’r Pwyllgor ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu a gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf. Gofynnwyd i aelodau hefyd gymeradwyo’r adborth o’r cyfarfodydd blaenorol a’r rhestr o ymatebion gan gynnwys unrhyw rai sy’n weddill.
Esboniodd y Swyddog Craffu y byddai Gofal Demensia yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Ebrill 2018 a bod Diwygio ADY wedi’i ddirprwyo i SOSC 2.
CASGLIADAU:
Gwnaeth y Pwyllgor gymeradwyo a nodi'r adborth a dderbyniwyd gan gynnwys y pwyntiau sy'n dal yn weddill.
Gofal Demensia Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwahodd cynrychiolydd iechyd meddwl i fod yn bresennol yn ei gyfarfod nesaf ynghylch Gofal Demensia.
Tai Brys Gofynnodd aelodau i gael gwahodd cynrychiolydd iechyd meddwl yn ogystal â chynrychiolydd o Elusen/Sefydliad Digartrefedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ynghylch Tai Brys.
Effaith Gyllidebol Carchar Parc Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwahodd cynrychiolydd addysgol i fod yn bresennol yn y cyfarfod mewn cysylltiad â Charchar Parc a phwy allai gyflwyno tystiolaeth am yr effaith addysg yng Ngharchar Parc.
Gwastraff Dymunodd aelodau ychwanegu'r cwestiynau canlynol at yr eitem am Wastraff: • Sut y casglwyd pwyntiau sy’n arwain at ddirwyon? • Faint o sesiynau hyfforddiant a gynhaliwyd ers i’r Pwyllgor Craffu dderbyn yr eitem ddiwethaf? • Pa mor effeithiol oedd y cynllun bag ychwanegol?
Priffyrdd Mewn perthynas â'r eitem a gynigiwyd i'r Gwasanaethau Priffyrdd, gofynnodd y Pwyllgor i gael ychwanegu’r pwyntiau canlynol at y cais am adroddiad: • Sut cydweithiodd yr ALl â’r Heddlu i nodi gwelliannau i’r ffordd? • Sut y blaenoriaethwyd gwaith? • Sut cydweithiodd yr ALl ag ysgolion o ran diogelwch ar y ffyrdd?
Nododd y Pwyllgor eitem ychwanegol, sef Trawsnewid Digidol ar gyfer y Flaenraglen Waith. Cytunodd y Swyddog Craffu i anfon ffurflen meini prawf fel y gellid ymhelaethu ar yr eitem ar gyfer ystyriaeth a chytuno yn y dyfodol ar y Flaenraglen Waith.
|
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |