Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Andrew Rees Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency. Cofnodion: Gwnaed y Datganiadau o Fuddiant canlynol:
Datganodd y Cynghorydd DBF White fuddiant personol yn eitem 3 ar yr agenda - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed gan ei fod yn gweithio yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe ac mae'n aelod o Fwrdd ABMU ac yn llywodraethwr Ysgol Heronsbridge.
Datganodd Mr W Bond fuddiant personol yn eitem 3 ar yr agenda - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel llywodraethwr Ysgol Heronsbridge.
Datganodd Mr C Jackson fuddiant personol yn eitem 3 ar yr agenda - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Brackla ac Ysgol Gynradd Tremains. |
|
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) PDF 83 KB
Invitees:
Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help; Susan Cooper,
Corporate Director – Social Services and Wellbeing; Andrew Davies, Chair
of AMBU Health Board;
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor ynghylch:
· hyfforddiant a wneir gan weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl; · y cymorth gan CAMHS sydd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (GTI); · cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl trosiannol i oedolion; a · gwybodaeth a data ar wasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol a ddarperir mewn ysgolion.
Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor am y ddarpariaeth i CAMHS gan y Gwasanaeth Cynhwysiant. Dywedodd fod y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (YOS) ar hyn o bryd heb aelod staff (sydd ei angen yn statudol) sy'n cael ei enwebu gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Dywedodd hefyd fod y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc ar hyn o bryd yn rheoli 108 o bobl ifanc, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl. Mae Dull Gwell o Reoli Achosion (gydag Iechyd fel partner allweddol) yn cael ei dreialu. Roedd y Gwasanaeth Cynhwysiant yn sicrhau bod ‘y bobl iawn yn darparu’r gefnogaeth iawn i’r bobl iawn ar yr adeg iawn’. Nododd fod ymgynghoriadau misol yn cael eu cynnal gyda seiciatrydd plant ymgynghorol. Roedd llwybrau cyfeirio hefyd at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.
Tynnodd sylw at gysylltiadau â
chymorth iechyd meddwl i oedolion, lle mae cynllunio pontio ar
gyfer pob person ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl wedi’u
nodi. Amlygodd hefyd y gefnogaeth a
ddarperir i CAMHS gan y Gwasanaeth Integredig Cymorth i
Deuluoedd. Hysbysodd y Pwyllgor am y
gefnogaeth iechyd meddwl a lles emosiynol a ddarperir i ysgolion yn
y Fwrdeistref Sirol. Dywedodd fod
iechyd yn gyfrifol am ddarpariaeth CAMHS ac mae cyllid yn cael ei
ddatganoli'n uniongyrchol i ABMU a Chwm Taf. Mae pob ysgol yn cyflawni llawer iawn o waith yn
cefnogi lles ac iechyd
Cyfeiriodd y Pwyllgor at ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc a holodd a yw'r ddarpariaeth yn y Fwrdeistref yn well neu'n waeth o'i gymharu â'r darlun cenedlaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau fod yna broblem sylweddol o ran recriwtio i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ledled y DU. Mae cyllid mewn gwahanol rannau o Gymru wedi arwain at staff yn symud o gwmpas, gan greu prinder mewn rhannau eraill o Gymru. Dywedodd fod gan bob darparwr CAMHS broblemau o ran cadw at dargedau Llywodraeth Cymru, gyda'r ddarpariaeth i bobl ifanc ar benwythnosau yn achosi problemau. Ar hyn o bryd, roedd yna gyflenwad llawn o staff yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ond nid oedd digon o le i gynnig yr holl wasanaethau. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor fod y targed o 26 wythnos ar gyfer asesu yn cael ei gyflawni ac nad oedd darparu gwasanaethau yn lleol yn sylweddol waeth, ond roedd angen i wasanaethau wella. Cyfeiriodd y Pwyllgor at y prinder lle a holwyd a ellid darparu gwasanaethau mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 19. |
|
Eitemau Brys To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |