Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Election of Chairperson |
|
Datganiadau Buddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 75 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/02/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2, dyddiedig 13 Chwefror 2019, fel cofnod gwir a chyw, cyhyd ag y câi’r Cyngh J Gebbie ei gynnwys yn y rhestr o’r cynghorwyr a oedd yn bresennol. |
|
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed PDF 97 KB Mynychwyr:
Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cyng Huw David – Arweinydd Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd Beverley Keyse - Cynrychiolydd Cyngor Iechyd Cymuned Pen y Bont ar Ogwr Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant David Roberts - Cyfarwyddwr dros Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - ABMU Joanne Abbott-Davies - Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Strategaeth a Phartneriaethau, Bwrdd Iechyd PABM Alan Lawrie - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol - Cymunedol ac Iechyd Meddwl Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Gwaith Integredig adroddiad yn rhoi diweddariad ar berfformiad a chyfeiriad strategol y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (AMBU), yr oedd y cyllid ar eu cyfer yn mynd yn uniongyrchol i ABMU.
Rhoddodd y Rheolwr Gr?p – Gwaith Integredig y cefndir, ac esboniodd fod y CAMHS yn peri pryder ers tro byd ledled Cymru. Amlinellodd y sefyllfa ar y pryd a bod y perfformiad wedi gwella dros y 18 mis blaenorol a bod yna well dealltwriaeth bellach o’r heriau a’r rhwystrau a wynebai’r gwasanaeth. Roedd ABMU yn gweithio gyda Chwm Taf i ddatblygu model integredig newydd a fyddai’n darparu un fynedfa i’r holl CAMHS sylfaenol ac eilaidd.
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau – ABMU a Chyfarwyddwr Iechyd Meddwl Sylfaenol a Chymunedol – Cwm Taf gyflwyniad: “Diweddariad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)”. Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau – ABMU gefndir manylach cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac anghenion iechyd meddwl, y blaenoriaethau allweddol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarth Gorllewin y Bae a’r gwasanaethau Anhwylderau Niwroddatblygiadol. Amlinellodd Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl Sylfaenol a Chymunedol – Cwm Taf wasanaeth y CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys y rhwydwaith, pa wasanaethau a ddarperid, sut roedden nhw’n edrych, sut roedden nhw wedi bod yn perfformio, yr heriau a’r cysylltiadau â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfeiriodd yr Aelodau at Ganllaw Cyflym y CAMHS a’r manylion cysylltu perthnasol, gan amlinellu cyfanswm amserau aros ac amserau aros hiraf y CAMHS sylfaenol ac arbenigol, cysylltiadau â’r awdurdodau lleol/trydydd sector a datblygiadau at y dyfodol.
Cododd un o’r aelodau bryderon ynghylch y nifer fawr o blant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ddiagnosiwyd ag anhwylder iechyd meddwl. Er bod gwasanaethau cymorth rhagorol ar gael i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant emosiynol, awgrymodd yr aelod y dylai gwell gwaith dadansoddi gael ei wneud er mwyn dod o hyd i themâu a oedd yn dod i’r amlwg, h.y. materion daearyddol, y cyfryngau cymdeithasol, bwlïo etc y tu ôl i’r diagnosis. Pan gâi’r themâu eu nodi, yna gallai mesurau atal gael eu hystyried. Gofynnodd yr aelodau sut roedd yr achosion dros ddiagnosio anhwylder iechyd meddwl mewn plentyn yn cael eu cofnodi a’u dadansoddi, ac a fyddai modd rhannu crynodeb gyda’r pwyllgor er mwyn iddyn nhw ddeall y rhesymau dros ddiagnosis. Gofynnodd yr aelodau am gael astudiaeth achos o blentyn sydd wedi’i ddiagnosio ag anhwylder iechyd meddwl yn dangos ei siwrnai o’r diagnosis hyd at y driniaeth.
Cydnabu’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaethau a Phartneriaethau fod yna lawer gwedd i’r mater hwn ac nad oedd yna un ateb a’u bod wedi treulio cryn amser yn pwyso a mesur modelau gwahanol. Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi rhoi ymroddiad i Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr mai un flaenoriaeth gyda Phenaethiaid Ysgolion fyddai datblygu strategaeth a fyddai’n edrych ar iechyd a llesiant emosiynol ar draws y fwrdeistref a sut roedd y Cyngor yn cysylltu â gwasanaethau gwahanol i “gau’r bylchau”. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 73. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Craffu at yr adborth i’r sylwadau a’r casgliadau ar yr eitem ynghylch Taliadau Uniongyrchol a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol a chadarnhaodd yr aelodau eu bod yn fodlon i’r gwaith monitro yn y dyfodol gae ei wneud fel rhan o waith monitro cyllideb chwarterol y CPA. Gofynnodd yr aelodau am gopi o fap a gweithdrefnau’r broses yn unol â’r adroddiad.
Gofynnodd y Swyddog Craffu a oedd rhagor o gwestiynau am y Strategaeth ynghylch Codi Tâl am Gaeau Chwarae’r Ddarpariaeth Chwaraeon. Gofynnodd yr aelodau a allai’r cysylltiad rhwng hyn a’r CAT gael ei esbonio yn yr adroddiad.
Atgoffodd y Swyddog Craffu yr aelodau y câi gweithdy ei gynnal ar Flaenraglenni Gwaith ar 1 Mai 2019, pan gâi pynciau ychwanegol eu hystyried ar gyfer y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys. I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |