Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 16eg Chwefror, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services Cabinet Committee/Scrutiny Services 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Datganiadau o Fuddiannau

 

Derbyn datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnus (os oes rhai) gan Aelodau/Swyddogion yn unol â darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008 (gan gynnwys datganiadau chwipio)

 

 

 

Cofnodion:

Datganodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fuddiant personol yn eitem 3 ar yr agenda gan fod aelod agos o’i theulu yn derbyn Gofal Cartref ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. 

25.

Meysydd Pwysau mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion pdf eicon PDF 197 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Carmel Donovan - Rheolwr Integredig Gwasanaethau Cymunedol (Pen Y Bont ar Ogwr)

Michelle King - Rheolwr Integredig Gwasanaethau Cymunedol- CRT (Ardal bont ar Ogwr)

 

Vicki Wallace - Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a Phartneriaethau - Cwm Taf Morgannwg

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad a diben hwn oedd esbonio’r pwysau oedd yn cael ei brofi ar y gwasanaeth ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, disgrifio'r camau lliniaru yr oedd y gwasanaeth yn eu cymryd a'r gwaith ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol i reoli'r sefyllfa gyffredinol, gan ganolbwyntio. ar y gwasanaethau Gofal a Chymorth yn y Cartref, a'r gwasanaeth gwaith cymdeithasol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Y rhaglenni adsefydlu sengl ac amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar nodau a ddefnyddir mewn gwasanaethau ymyrraeth tymor byr gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau yn y cartref.

·         Nifer ac oedran cyfartalog y bobl sy'n disgwyl am becynnau gofal gartref ac yn yr ysbyty, y ffactorau sy'n effeithio ar yr amseroedd aros amrywiol am becyn gofal a chymorth.

·         Rheolaeth weithredol ar restrau aros, gan gynnwys galwadau ffôn rheolaidd, ymweliadau gwaith cymdeithasol, ail asesiadau a therapïau.

·         Effaith y pandemig ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, y cyllid adfer sylweddol a dderbyniwyd i gynorthwyo i ailadeiladu gallu a phwysigrwydd gwasanaethau ataliol.

·         Proffil oedran gweithwyr gofal ac annog unigolion i ddilyn cyrsiau gwaith cymdeithasol TGAU a Safon Uwch er mwyn denu pobl iau a chodi ymwybyddiaeth o fanteision gwaith cymdeithasol.

·         Y cynnydd yn yr achosion o ddementia, a oes angen pecynnau gofal mwy cymhleth ar gleifion dementia a chanolbwyntio ar fyw yn dda gyda dementia yn y cartref ac mewn cymuned gefnogol a chyfeillgar i ddementia.

·         Cost gofal yn yr uned ddementia newydd yng Ngharchar y Parc, menter gan y Bwrdd Iechyd.   

·         Lefel y gefnogaeth a gynigir gan ddarpariaeth annibynnol, yr angen i ail-gydbwyso'r farchnad mewn perthynas â darparwyr annibynnol a chymorth mewnol ac y dylai gweithwyr gael eu talu am yr holl oriau a weithiwyd, gan gynnwys yr amser rhwng galwadau.

·         Yr angen am lefel broffesiynol o gyflog, telerau ac amodau, gan dynnu sylw at y farchnad gystadleuol mewn sectorau heb eu rheoleiddio sy'n cynnig cyflogau uwch.

·         Telerau ac amodau GIG deniadol ar gyfer rhai bandiau swyddi a threfniadau sy’n galluogi staff gofal cartref i gael eu cyflogi o dan delerau ac amodau’r GIG a gweithio i’r Awdurdod Lleol o dan lywodraethiant y Cyngor.

·         Cefnogaeth i staff gofal gan gynnwys cymorth i gynnal a chadw car, tocynnau Cludiant cyhoeddus a chyllid diweddar a gafwyd i gefnogi staff sy'n dymuno cael gwersi gyrru. 

·         Rhesymau pam mae Gweithwyr Cymdeithasol yn gadael yr Awdurdod gan gynnwys ymddeoliad, y farchnad gystadleuol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol cofrestredig ar hyd coridor yr M4 a'r argyfwng costau byw.

·         Cynhelir cyfweliadau ymadael fel mater o drefn yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Plant ond nid ydynt wedi cael eu gweithredu’n llawn eto yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

·         20 diwrnod o amser ar gyfartaledd i ddyrannu achosion gwaith cymdeithasol a rheolaeth weithredol ar achosion heb eu dyrannu.

·         Nifer y Lefel DU/Camau Parhad Busnes sy'n cael eu galw a chydnabyddiaeth ei fod wedi dod yn fwy aml yn ystod y 3 mis diwethaf. 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25.

26.

Datblygu Gwasanaethau Anableddau Dysgu pdf eicon PDF 116 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Mark Wilkinson - Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau

 

Adam Kurowski Wakeford – Rheolwr GweithredolPobl Yn Gyntaf Pen-y-Bont

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a'i ddiben oedd disgrifio'r gwasanaethau anabledd dysgu oedd yn gweithredu yn y Fwrdeistref Sirol ac adrodd am ddatblygiadau yn y ffordd y darperid gwasanaethau anabledd dysgu a'r ffactorau allweddol oedd yn effeithio arnynt.

 

Dywedodd Rheolwr Gweithredol Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr fod Pobl yn Gyntaf yn elusen sy'n rhoi llais i bobl ag anableddau dysgu ac yn eu cynorthwyo i gael mwy o ddewis drwy hunan-eiriolaeth ac eiriolaeth annibynnol. Tynnodd sylw hefyd at nifer o feysydd eraill y mae'r elusen yn cynorthwyo pobl gan gynnwys darparu hyfforddiant a chyfieithu dogfennau i fformatau hawdd eu darllen.

 

Dywedodd y Defnyddwyr Gwasanaeth a wahoddwyd i'r cyfarfod eu bod yn gwerthfawrogi’r ffordd yr oedd yr oedd eiriolaeth wedi gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu trin â pharch ac roeddent yn sôn am y ffordd yr oedd Pobl yn Gyntaf wedi eu helpu gyda sgiliau bywyd pwysig megis delio â'r heddlu, y gwasanaeth tân a staff meddygol a rheoli eu materion ariannol eu hunain.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwahoddedigion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Bod y Defnyddwyr Gwasanaeth yn hapus ar y cyfan gyda'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn megis cymorth gyda thasgau, cyllidebu a theithio ond yn tynnu sylw at broblemau gyda phrydlondeb staff a chael eu hysbysu'n hwyr am salwch staff.

·         Nifer y bobl ag anableddau dysgu sy'n hysbys i Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, canfod yn fuan y bobl ag anableddau dysgu sydd angen cymorth, pwysigrwydd gwasanaethau atal a lles ac ehangu cydgysylltu cymunedol lleol. 

·         Adolygiad arbenigol allanol o fodel gweithgareddau dydd gan gynnwys effaith y pandemig.

·         Ariannu’r gwasanaeth a buddsoddiad i weithredu'r ailfodelu a chreadigrwydd ac ymroddiad staff i ddarparu gwasanaethau.

·         Cludiant ar gyfer Gwasanaethau Dydd ac ymdrechion i'w wneud yn fwy cydgysylltiedig a chost-effeithlon, gan gynnwys datblygu ap newydd a'r heriau a'r rhwystrau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

·         Mwy o waith oherwydd gweithredu'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

·         Y ffyrdd yr effeithiodd y pandemig ar y Defnyddwyr Gwasanaeth, yn enwedig eu bywydau cymdeithasol ac, wrth i wasanaethau ddychwelyd, maent yn teimlo'n fwy cadarnhaol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

1.    Ystyried sut y gellir rheoli achosion o staff yn cyrraedd yn hwyr ac ychydig o  rybudd o salwch staff er mwyn osgoi oedi neu ohirio diwrnod allan y dywedodd Defnyddwyr Gwasanaeth ei fod yn cael effaith aflonyddgar ac ansefydlog arnynt.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch yr effaith y gallai newid dull teithio Polisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio ceir i gludiant cyhoeddus ei chael, drwy amddifadu pobl ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroamrywiol, a all wynebu ofn a thrallod wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ac argymhellodd bod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26.

27.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fynychu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfod blaenorol yn Atodiad B. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am i'r eitemau canlynol gael eu hystyried i'w hychwanegu at Flaenraglen Flynyddol 2023-24 yn y Cyfarfod Cynllunio Craffu nesaf ar gyfer SOSC 2:

 

-       Canlyniad yr adolygiad arbenigol allanol o wasanaethau anabledd dysgu ar ôl iddo gael ei gwblhau.

 

Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys y cais uchod, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B, ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC.

28.

Eitemau Brys

Ystyriedunrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi ynddynt yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai, oherwydd amgylchiadau arbennig, gael ei drafod yn y cyfarfod fel mater o frys.

 

Cofnodion:

Dim.