Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Gwener, 20fed Ionawr, 2023 13:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

2.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Williams fuddiant personol ym mharagraff  4.1.7 ar yr agenda, eitem 3, fel cyn-aelod o’r staff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Amddiffyn y Cyhoedd.

3.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 pdf eicon PDF 544 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet - Adnoddau

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Mark Shephard - Prif Weithredwr

 

Deborah Exton - Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o’r adroddiad, a diben hwn oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 drafft, oedd yn egluro blaenoriaethau gwario’r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllido a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol am 2023-2027 a chyllideb refeniw fanwl ddrafft ar gyfer 2023-24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid am ei chrynodeb cynhwysfawr a chyfeiriodd at y Pwysau ar y Gyllideb ddrafft yr oedd y Pwyllgor yn eu hystyried, gan atgoffa’r Aelodau i ystyried a oedd y rhain yn ddigon ac yn gadarn.

 

Bu’r Aelodau yn trafod y canlynol:

 

Mewn ymateb i gwestiwn a oedd y gostyngiad yn nifer y darparwyr gofal preswyl i blant o ganlyniad i’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynigion i ddileu elw preifat, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar (Dirprwy Arweinydd) fod rhai darparwyr er elw yn ceisio gadael y farchnad yng Nghymru gan arwain at yr angen i leoli plant dros y ffin ond dal i wneud elw. Dywedodd hefyd fod unrhyw anghenion gofal cymhleth am gost ychwanegol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cyfarwyddwr Corfforaethol), oherwydd bod rhai darparwyr yn dewis gadael y farchnad, bod y rhai oedd ar ôl yn cael mwy o blant a phobl ifanc. Roedd anhawster cynyddol i ddod o hyd i leoliadau ac angen am leoliadau mwy pwrpasol yn ogystal â nifer y plant oedd angen cymorth y tu allan i leoliadau rheoledig, oedd yn dod â phremiwm cost. Er bod y Gyfarwyddiaeth yn datblygu darpariaeth fewnol, roedd yn parhau i ddibynnu ar ddarparwyr allanol annibynnol ar hyn o bryd. Eglurodd fod y ffaith fod anghenion plant a phobl ifanc yn gynyddol gymhleth ar ôl y pandemig a bod yr economi hefyd yn profi problemau sylweddol o ran gweithlu yn effeithio ar gostau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch unrhyw gynlluniau ar gyfer ailfodelu yn y gwasanaethau cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yna raglen drawsnewid sylweddol, yn cynnwys trawsnewid ymarfer seiliedig ar gryfder, mewn gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn seiliedig ar alluogi a hyrwyddo annibyniaeth. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y gwasanaethau ataliol a gynigir gan Awen a Halo, sy’n rhoi gwerth da ac yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed, yn ogystal ag ailfodelu gwasanaethau gofal a chymorth cartref, gwasanaethau gofal yn y cartref mewnol a rhai a gomisiynir, anableddau dysgu ac iechyd meddwl.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod gweddnewid ar agenda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sy'n gyfrifol am gyflenwi cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus yngl?n â’r cynnydd arfaethedig o 6% yn y Dreth Gyngor, dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai safbwyntiau trigolion yn cael eu trafod a’u hystyried.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod angen gwerthfawrogi gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gydnabod bod y boblogaeth sy'n heneiddio yn achosi mwy o alw ar wasanaethau, a bod angen i dâl ynghyd â thelerau ac amodau’r gweithwyr hyn adlewyrchu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim