Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd Paula Ford wedi ymddiheuro y byddai hi’n hwyr yn ymuno â’r cyfarfod ac ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Davies y byddai angen iddo ef adael y cyfarfod yn gynnar.
Swyddogion
Gwahoddedigion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Richard Granville a’r Cynghorydd Jane Gebbie y byddai’n rhaid iddynt adael y cyfarfod yn gynnar. |
|
Datganiadau o Fuddiannau
Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 212 KB
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 08 12 22, 16 02 23 a 27 03 23.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2, dyddiedig 16 Chwefror, 27 Mawrth a 10 Gorffennaf 2023, fel cofnod gwir a chywir. |
|
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion PDF 201 KB
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Mark Wilkinson - Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Glynis Evans – Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol
Robert Goodwin - Rheolwr Gr?p Gwasanaeth, Gwasanaethau Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r cyd-destun strategol a gweithredol y mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion yn cael eu darparu ynddo yn y Fwrdeistref Sirol a gofyn i'r Pwyllgor roi sylwadau ar gyfeiriad y gwasanaethau i’r dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y llwybr atgyfeirio i’r Tîm Gofal Cymdeithasol ac Adfer, y cyfnod ymyrraeth nodweddiadol a’i bwysigrwydd fel tîm ymyrryd yn gynnar ac atal. · Y cynnydd nodedig yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer pobl ifanc ar y sbectrwm awtistig, y Cod Ymarfer ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru a chynllun hyfforddi’r Awdurdod. · Digwyddiadau hacathon lleol ac addasiadau i wella gwasanaethau a chyfathrebu ar gyfer pawb sydd â chyflyrau niwroamrywiol. · Cyd-arolygiad cadarnhaol ar y cyfan Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Gogledd a'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella ac arfer gorau. · Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned: - Y mathau o gyrsiau therapiwtig a chwnsela sydd ar gael; - esblygiad y gwasanaeth; - proffil oedran a rhesymau pobl dros ddefnyddio'r gwasanaeth; a - cgasglu profiadau ac adborth defnyddwyr y gwasanaeth. · Y rhestrau aros presennol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a rôl ysgolion a cholegau mewn gwneud atgyfeiriadau. · Llwyddiant yr Encil Les, y potensial i ehangu'r gwasanaeth, a’r themâu sy'n effeithio ar ddefnyddwyr. · Digonolrwydd cyllid ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl statudol, buddsoddiad wedi'i dargedu mewn Gwasanaethau Atal a Lles i atal yr angen rhag cynyddu ymhellach i wasanaethau eilaidd, a phwysigrwydd llwythi achosion diogel a hydrin. · Gwella cyfathrebu o amgylch Iechyd Meddwl a lleihau stigma. · Datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Ranbarthol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i'r Strategaeth Dros Dro yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol newydd. · Y gynulleidfa darged ar gyfer y Strategaeth Dros Dro, pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a'r camau a gymerwyd i hybu'r gwasanaethau sydd ar gael. · Ffynhonnell ac arwyddocâd y gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Interim a'r Codau Ymarfer Proffesiynol. · Cyflwyno hyfforddiant a nodwyd a’i hygyrchedd, a sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol:
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol: 2. Data’n ymwneud â’r cynnydd nodedig yn nifer y bobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth sy’n cael eu cyfeirio at y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a chopi o’r Cod Ymarfer presennol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru.
3. Bod gwybodaeth am y llwybr at eiriolaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 47. |
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 PDF 166 KB
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol Pete Tyson – Rheolwr Grwp - Comisiynu Mark Wilkinson – Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Michelle King - Rheolwr Integredig Gwasanaethau Cymunedol- CRT (Ardal bont ar Ogwr) Shagufta Khan – Arweinydd Gwaith Cymdeithasol – Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor, i graffu arno cyn iddo gael ei ystyried gan y Cyngor ar 20 Medi 2023.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Diolch y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei harweinyddiaeth ac i’r staff i gyd am eu holl waith caled. · Goblygiadau ariannol ac effaith ddisgwyliedig y ddarpariaeth breswyl newydd i blant. · Digonolrwydd a chynllunio cyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, cyllid grant a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. · Adolygiad arbenigol o wariant yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu a chost a gwerth gofalwyr maeth. · Asesiadau gofalwyr a phwysigrwydd cynorthwyo gofalwyr di-dâl i ddod o hyd i wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a chael mynediad ato. · Rôl y Swyddog Cyfranogi, y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod llais plant a theuluoedd yn cael ei glywed a chamau pellach sydd i gael eu cymryd, gan gynnwys sefydlu Siarter Rhieni. · Breuder staffio, y posibilrwydd o dâl, telerau ac amodau cenedlaethol safonol i Gymru, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng awdurdodau lleol ynghylch cyflog ac amodau gwaith gweithwyr asiantaeth, a mesurau i ddenu gweithwyr Gofal Cymdeithasol i Ben-y-bont ar Ogwr. · Y ffactorau sy’n cyfrannu at y niferoedd uchel o Blant sydd wedi cael Profiad o Ofal a Phlant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac effaith ddisgwyliedig y Cynllun Cynaliadwyedd ar Ofal Cymdeithasol Plant. · Pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwaith aml-asiantaeth a Chyd-arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru o Drefniadau Amddiffyn Plant. · Y data ynghylch Gwasanaethau Ailalluogi, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a chwynion a chanmoliaeth.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Bod y modelu ariannol sydd ar gael i'r Cabinet yn ystod y broses o osod y gyllideb i fod ar gael hefyd i'r Panel Ymchwilio a Gwerthuso'r Gyllideb i fod o gymorth gyda'u trafodaethau ar y gyllideb ynghylch digonolrwydd ariannol ar gyfer Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
2. Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr, i gefnogi ymateb y Dirprwy Arweinydd a’r Cyngor i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth, at Weinidog Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol ynghylch tâl, telerau ac amodau cenedlaethol safonol Cymru er mwyn atal “potsio” staff gan awdurdodau lleol eraill ac felly sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw gweithlu medrus.
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
Diweddariad ar gynnydd a chost y flaenoriaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant i wella capasiti gofal maeth mewnol a gweithredu gwasanaeth cymorth therapiwtig i ofalwyr maeth. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 178 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.5 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad B. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.
Gofynnodd y Pwyllgor i gynrychiolwyr asiantaethau partner, oedd yn ymwneud â’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, gael eu gwahodd i fod yn bresennol ar gyfer craffu ar eitem Arolygiaeth Gofal Cymru – Cydarolygiad o Drefniadau Amddiffyn Plant a drefnwyd ar y Flaenraglen Waith ar gyfer 23 Tachwedd 2023.
Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 3.5, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd ceisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B ac yn nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor wrth gyfarfod nesaf COSC. |
|
Eitemau Brys
I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |