Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 3ydd Tachwedd, 2022 10:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Williams fuddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda fel aelod o'r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

8.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 179 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y  11 07 22

Cofnodion:

. PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

9.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Adroddiad Gwerthuso Perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant 23 - 27 Mai 2022 pdf eicon PDF 141 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – DirprwyArweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

 

Tracey Shepherd - Uwch Reolwr - Tim Arolygu Awdurdodau Lleol - Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant a gofyn i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad a gwneud sylwadau ar y Cynllun Gweithredu cysylltiedig. 

 

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y Cynllun Gweithredu manwl ac eglurodd ei fod wedi’i osod yn 4 adran yn unol ag adroddiad AGC. Tynnodd sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â phob maes i'w wella yn y cynllun. Cadarnhaodd, er bod rhai camau gweithredu wedi'u cwblhau, bod nifer ohonynt yn mynd rhagddynt ond bod llawer o feysydd a nodwyd i'w gwella eisoes wedi'u nodi gan y gwasanaeth eu hunain cyn yr arolygiad a gwaith wedi dechrau arnynt yn barod. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar (Dirprwy Arweinydd) ei bod hi’n gwybod, pan gafodd ei phenodi’n Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ar ddiwedd y llynedd, y byddai’n her a’i bod wedi bod yn ddigalon ar adegau.  ynghylch rhai o’r heriau a wynebir. Fodd bynnag, roedd hi bellach yn fwy calonogol a gallai weld mwy o gyfleoedd a’i bod yn treulio cymaint o’i hamser â phosibl gyda defnyddwyr gwasanaeth. Dywedodd am sgyrsiau diweddar Gofalwyr Maeth a oedd wedi bod wrth eu bodd yn rhoi gwybod iddi am y newidiadau y gallent eu gweld yn cael eu gwneud o fewn y practis.

 

Pwysleisiodd y byddai cwblhau’r hyfforddiant ‘Arwyddion Diogelwch’ yn rhoi gwell trosolwg i reolwyr. Yn ogystal, cododd yr heriau a wynebir gan yr agenda nid-er-elw o ran digonolrwydd y ddarpariaeth o leoliadau i bobl ifanc. Yn olaf, tynnodd sylw at y pwysau ar y cyllidebau ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r angen i edrych am ddyfodol mwy cynaliadwy ac arweiniad a chyfeiriad gan Lywodraeth Cymru. Rhybuddiodd pe byddai sefyllfa'r gyllideb yn aros yr un fath, yna ni fyddai'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn aros yr un fath a bod angen cael sgwrs gyda chymunedau lle byddai'r effaith yn cael ei deimlo.

 

Diolchodd Aelod i'r Swyddogion a'r Dirprwy Arweinydd am eu gonestrwydd a thryloywder a gofynnodd a oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fodlon bod yr adroddiad arolygu yn adlewyrchiad gwir a chywir o'r ddarpariaeth gwasanaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod hi a thynnodd sylw at y ffaith ei fod yn adlewyrchu'r hunanwerthusiad yr oeddent wedi'i gyflwyno i AGC a'i bod yn gobeithio ei fod hefyd yn adlewyrchu'r cyngor yr oedd wedi'i roi i'r Cyngor llawn pan gyflwynodd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Cyfeiriodd Aelod at y ganran uchel o ymatebwyr i’r arolwg pobl a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch ‘yn anaml’ neu ‘byth’, a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu clywed ‘yn anaml’ neu ‘byth’, pan ofynnwyd iddynt pa mor hawdd oedd cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol, a ddywedodd, ‘ddim yn hawdd’ neu ‘anodd iawn’ a, phan ofynnwyd iddynt pa mor ddefnyddiol oedd y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn: Adfywio Glannau Porthcawl Neilltuo Tir ym Mharc Griffin a Bae Sandy pdf eicon PDF 129 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet – Adfywio

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Jonathan Parsons - Rheolwr Gr?p Gwasanethau Cynllinio a Datblygu

Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Delyth Webb – Rheolwr Grwp Adfywio Strategol

Julian Thomas - ArweinyddTîm Prosiectau a Dulliau Adfywio

Jacob Lawrence - Prif Swyddog Adfywio 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a oedd â'r pwrpas o alluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet ar 18 Hydref 2022 mewn perthynas â'r adroddiad ar Adfywio Glannau Porthcawl:  Neilltuo Tir ym Mharc Griffin a Bae Sandy. 

 

Dywedodd, yn unol â Rheol 18 o'r Rheolau Trosolwg a Chraffu yng Nghyfansoddiad y Cyngor, fod pum Aelod o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a dau Gadeirydd Craffu, wedi gofyn i benderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 18 Hydref 2022 gael ei Alw i Mewn. 

 

Dywedodd yr argymhellwyd bod y Pwyllgor yn ystyried penderfyniad y Cabinet ar 18 Hydref 2022 yn ymwneud ag Adfywio Glannau Porthcawl:  Neilltuo Tir ym Mharc Griffin a Bae Sandy a phenderfynu a oedd yn dymuno: 

 

i)               cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi yn 

     ysgrifenedig natur ei bryderon; neu

ii)              penderfynu peidio â chyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau a oedd wedi cefnogi’r Galw i Mewn i siarad ar y rhesymau dros y Galw i Mewn. 

 

Dywedodd yr Aelodau mai’r prif resymau dros y Galw i Mewn oedd:

 

-       Dylai Craffu ddangos ei fod yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, y Cabinet a Swyddogion bod y Cyngor yn symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir ac y dylid ei weld fel rhywbeth sy'n ychwanegu gwerth ac yn cryfhau'r broses o lunio polisi cyhoeddus. 

 

-       Yr angen am dystiolaeth amlwg bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu’r 5 Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015), a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgynghoriad cyhoeddus fynd y tu hwnt i’r isafswm statudol. 

 

-       Roedd yr aelodau wedi derbyn nifer sylweddol o sylwadau gan gynghorwyr tref, y cyhoedd a sefydliadau lleol ym Mhorthcawl yn gwrthwynebu'r cynigion a’u bod wedi codi pryderon a chwestiynau dilys ynghylch y cynlluniau adfywio. Croesawodd yr Aelodau’r cyfle i roi llais i’r bobl hynny, gan gydnabod yr effaith cenedliadol sylweddol a’r newid diwrthdro i’r dref y gallai’r cynlluniau datblygu eu cael ar Borthcawl. 

-       Mynegwyd pryder y gallai canfyddiad y cyhoedd o gyfarfod y Cabinet fod fel a ganlyn, sef ei fod yn benderfyniad a oedd wedi'i bennu ymlaen llaw o ystyried lefel uchel y pryderon cyhoeddus nad oedd yn ymddangos eu bod wedi'u trafod na'u trin yn ddigonol. 

-       Bod angen tystiolaeth amlwg bod ystyriaeth ddigonol wedi'i rhoi i'r ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn llethol yn erbyn neilltuo tir i'r dibenion a amlinellwyd yn adroddiad y Cabinet. 

 

-       Colli mannau agored at ddibenion hamdden, newidiadau i Barc Griffin, pryderon am dai arfaethedig yn Sandy Bay, diffyg buddsoddiad mewn cyfleusterau twristiaeth, yn ogystal â'r effaith ar fywyd gwyllt ac ecoleg, na chawsant eu trafod yn ddigonol yn ystod trafodaethau'r Cabinet ar y mater hwn. 

-       A oedd angen neilltuo’r holl dir i alluogi adfywiad glannau Porthcawl (a allai agor y llifddorau ar gyfer tai) a pham nad oedd yr opsiwn o leihau arwynebedd y tir y bwriedir ei neilltuo wedi’i ystyried. 

-       Roedd angen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Diweddariad Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar y Ddiweddaraf y Blaenraglen Gwaith, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

1.    Bod cwmpas yr adroddiad Gweithio Integredig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cynnwys naratif ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty.

2.    Pan fydd yr adroddiad ar IAA wedi'i amserlennu y bydd yna wahoddedigion o'r Adran Addysg hefyd.

 

Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Blaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4. 3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Blaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys y ceisiadau uchod, yn nodi y byddai'r Blaenragle Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC ac yn nodi'r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn Atodiad B. 

12.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.