Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Iau, 8fed Rhagfyr, 2022 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Davies a’r Cynghorydd Richard Williams y byddai’n rhaid iddynt adael y cyfarfod yn gynnar.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Amanda Williams y byddai’n rhaid iddi adael y cyfarfod am 11.30a.m. oherwydd bod mater brys wedi codi.

 

Gwahoddedigion:

Y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

15.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

16.

Diweddariad ar Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Rheoleiddiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2022 pdf eicon PDF 185 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Carol Owen - Rheolwr Gwasanaeth Darparwyr - Cefnogaeth Cartref/Gwasanaethau Llety

Jane Lewis - Rheolwr GrwpGwasanaethau Darparwr Gofal Uniongwrchol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi i’r Pwyllgor ganlyniad Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Rheoleiddiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ystod 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth (PANs) a Meysydd i'w Gwella (AFIs), dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr Awdurdod Lleol, pan fydd PAN yn cael ei gyhoeddi, yn cael dyddiad cau i gwrdd â'r gofyniad a osodwyd ac os na châi’r gofyniad ei fodloni erbyn y dyddiad hwnnw, y gallai'r Awdurdod gael ei gyfeirio at Banel Gorfodi. Aeth ymlaen i ddweud fod Meysydd i’w Gwella yn cael eu hadolygu gan AGC wrth ail arolygu a phe na bai gwelliannau digonol wedi cael eu gwneud, gallent ddod yn Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r staff, gan gydnabod anhawster y swydd a chadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod yr adroddiad wedi cael ei rannu â hwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch p’un a oedd y gwasanaeth wedi cael ei synnu gan unrhyw un o'r Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth neu'r Meysydd i’w Gwella, dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod eisoes yn ymwybodol o rai o'r materion a godwyd yn yr Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn gweithio gyda'r rheolwyr ynghylch yr holl Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth a Meysydd i’w Gwella mewn modd amserol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y posibilrwydd o ailgychwyn ymweliadau rota Aelodau â chartrefi gofal oedolion a chartrefi plant, cydnabu Arweinydd y Cyngor werth yr ymweliadau rota i’r Aelodau, y staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Roedd hefyd yn cydnabod eu dylanwad buddiol ar drefniadau llywodraethu a sicrwydd yr Awdurdod oherwydd, cyn y pandemig, câi ymweliadau eu cynnal nid yn unig â lleoliadau a reolid  gan yr Awdurdod ond hefyd leoliadau a gomisiynwyd gan y sector annibynnol a’r trydydd sector. Dywedodd fod angen i Aelodau gael eu gosod mewn parau ar gyfer ymweliadau i ddibenion diogelu ac y byddent yn ystyried ailgyflwyno'r ymweliadau y flwyddyn nesaf.

 

Ailadroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion sut yr oedd ymweliadau rota yn elfen bwysig o brosesau sicrhau ansawdd a dywedodd y cai cynllun ei ddyfeisio ar gyfer ailgyflwyno'r ymweliadau fyddai'n dechrau gyda hyfforddiant i’r Aelodau. Awgrymodd y dylai ymweliadau rota gychwyn gyda'r gwasanaethau o fewn y Cyngor cyn eu cyflwyno i'r sector annibynnol. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynghylch p’un a oedd y gwasanaeth yn gyfredol o ran cyflwyno’r hyfforddiant gorfodol a’r rhesymau pam yr oedd AGC wedi adrodd nad oedd cydymffurfiaeth lawn â’r hyfforddiant, cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr hyfforddiant gorfodol ar raglen dreigl; peth yn flynyddol, peth bob tair blynedd a pheth yn ystod y cyfnod sefydlu. Cyn y pandemig, roedd y rhaglen dreigl yn sicrhau y byddai unigolion yn gwybod pryd yr oedd eu hyfforddiant i fod ond yn ystod y pandemig, roedd y ffocws wedi bod ar gadw pobl yn ddiogel, ymgysylltu ag unigolion a darparu gwasanaethau rheng flaen. 

 

Yn ogystal, roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 350 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Raeanna Grainger - Rheolwr Gr?p, IAA a Diogelu

Terri Warrilow - Rheolwr Diogelu ac Ystadau Diogel

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor wrth gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y nifer fawr o adroddiadau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod dilynol ym mis Chwefror 2023. Sicrhaodd y Swyddog Craffu yr Aelodau eu bod yn gofyn am eglurder gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, ar y cyd â'r Cadeirydd, a oedd modd grwpio'r eitemau gyda'i gilydd yn un neu ddwy eitem fwy, ac felly roedd yn annhebygol y byddai cymaint o eitemau i’w hystyried.

 

Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi yr adroddid ar y Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor wrth gyfarfod nesaf y COSC ac yn nodi’r Daflen Gweithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B.

18.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Scrutiny Officer presented the Committee with the Forward Work Programme (FWP) in Appendix A for discussion and consideration, requested any specific information the Committee identified to be included in the items for the next two meetings, including invitees they wished to attend, requested the Committee to identify any further items for consideration on the FWP having regard to the selection criteria in paragraph 4.3 and asked the Committee to note that the FWP for the Committee would be reported to the next meeting of Corporate Overview and Scrutiny Committee.

 

The Committee raised concern regarding the large number of reports scheduled for the following meeting in February 2023. The Scrutiny Officer reassured Members that clarification was being sought from the Corporate Director, in conjunction with the Chair, as to whether the items could be grouped together into one or two larger items, and it was therefore unlikely that there would be as many items for consideration.

 

There were no further items identified for consideration on the Forward Work Programme having regard to the selection criteria in paragraph 4.3, and this could be revisited at the next meeting.

 

There were no requests to include specific information in the item for the next meeting.

 

RESOLVED:   That the Committee approved the Forward Work Programme in Appendix A, noted that the Forward Work Programme and any updates from the Committee would be reported to the next meeting of COSC and noted the Recommendation Monitoring Action Sheet in Appendix B.

19.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.