Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 2 - Dydd Llun, 27ain Mawrth, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Della Hughes a Jane Gebbie fuddiant personol yn eitem 4 ar yr Agenda fel gofalwyr di-dâl.

31.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 271 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03 11 22 a 20 01 23

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2, dyddiedig 3 Tachwedd 2022 a 20 Ionawr 2023, fel cofnod gwir a chywir.

32.

Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion. pdf eicon PDF 197 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie DirprwyArweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

 

Andrew Thomas - Rheolwr Grwp – Atal a Lles

Martin Morgans - Pennaeth GwasanaethPerfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Kathy Proudfoot – Swyddog Datblygu Gofalwyr

Sophie Moore - Rheolwr Lles - Byw'n Iach

 

Ryan Statton - Rheolwr Cymunedau Egnïol, Halo Leisure

Ceri Evans - Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau, Awen

Gareth Howells - Prif Swyddog Gweithredu, TuVida

Jenny Park – Cyfarwyddwr Gofal a Gwasanaethau, TuVida

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd hysbysu’r Pwyllgor am ofynion Siarter y Gofalwyr yng Nghymru a’r meysydd ffocws cysylltiedig a all gefnogi gofalwyr di-dâl i gynnal eu llesiant a disgrifio’r gwaith sy'n cael ei wneud ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi gofalwyr di-dâl, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor, a'i bartneriaid, yn cefnogi gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion.

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi gofalwyr ifanc i barhau â'u haddysg ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu.

·         Polisïau Gofalwyr Ifanc Ysgolion a chymorth ymarferol mewn ysgolion gan gynnwys cymorth gyda gwaith a cheisiadau am amser ychwanegol ar gyfer arholiadau.

·         Yr heriau a wynebwyd gan ofalwyr ifanc yn ystod y pandemig, yn aros adref gyda holl aelodau'r teulu heb unrhyw ofal seibiant.

·         Dywedodd y gofalwr ifanc wrth yr Aelodau ei bod yn gweld cadw at drefn, mynd am dro a chymryd rhan mewn gwersi ar-lein yn ddefnyddiol. Teimlai hefyd, ers y pandemig, fod buddion y Cerdyn Gofalwr Ifanc wedi gwella pethau’n wirioneddol a’i bod wedi canfod gwerth gwirioneddol yn y Rhwydwaith.

·         Unrhyw welliannau angenrheidiol i gefnogi gofalwyr ifanc yn dangos pwysigrwydd eu canfod a mewnbwn gan Gr?p Llywio’r Gofalwyr Ifanc.

·         Clywodd aelodau gan gyfranogwr yn Rhaglen Seibiant Gofalwyr chwe wythnos Halo, sy’n gofalu am ei g?r ag Alzheimer’s. Fe wnaeth hi drafod cynnwys y Rhaglen a'i bod wedi ei chael yn barchus, yn dangos dealltwriaeth ac yn llawn gwybodaeth. Dywedodd fod trefnu gofal ar gyfer ei g?r a'i galluogi i fynychu'r Rhaglen wedi bod yn amhrisiadwy ond gofynnodd am ystyried darparu cludiant i gyfranogwyr nad oeddent yn gyrru.

·         Datblygiad cymorth dementia a gwaith ymgysylltu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyda mewnbwn gan Gydlynydd Dementia i lywio cynlluniau a gwasanaethau lleol a rhanbarthol. 

·         Nifer a ffynhonnell yr atgyfeiriadau i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, canran y gofalwyr oedd yn derbyn cyngor a chymorth a nifer a chanlyniadau asesiadau llawn o anghenion gofalwyr.

·         Nifer asesiadau gofalwyr ifanc a faint oedd yr Awdurdod yn gwybod amdanynt eisoes.

·         Gweithredir cyllid ar gyfer y cymorth drwy Whitehead Ross a'i ffocws ar anghenion unigol gofalwyr ifanc.

·         Argaeledd Cardiau Gofalwyr i oedolion drwy’r gwasanaeth newydd a gomisiynwyd o 1 Ebrill 2023, TuVida.

·         Nifer ac amrywiaeth y gofalwyr oedd yn gwneud sylwadau cadarnhaol am y rhaglenni Lles Gofalwyr a Seibiant a Theimlo'n Dda am Oes.

·         Diweddariad ar fenter lwyddiannus Croeso Cynnes a'r ystod eang o adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael.

·         Canfod mwy o ofalwyr a rôl cymunedau a Chydlynwyr Cymunedol.

·         Maint y cymorth cymunedol yn ystod y pandemig a phwysigrwydd gwasanaethau ataliol a gwasanaethau statudol amserol, pan fo angen.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr Eitem  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Ymweliad Gwirio Gwelliant Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant - 21-24 Tachwedd 2022 pdf eicon PDF 152 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

Iain McMillan – Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Raeanna Grainger - Rheolwr Gr?p, IAA a Diogelu

 

Tracey Shepherd - Uwch Reolwr - Tim Arolygu Awdurdodau Lleol - Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am eu hymweliad gwirio gwelliant â Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod mis Tachwedd 2022 a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi’i ddiweddaru.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Diolch i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei gyfnod gyda’r Awdurdod.

·         Nifer y meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen gweithredu pellach a'r gyllideb angenrheidiol i gefnogi'r gwelliannau gan amlygu cost staff asiantaeth a gweithrediad parhaus model yr Arwyddion Diogelwch.

·         Gellid disgwyl ymweliadau gyda rhybudd ac ymweliadau dirybudd gan AGC i fonitro cynnydd a dylai ymarfer fod o’r safon a ffefrir p'un a oedd y Gwasanaeth yn cael ei arolygu ai peidio.

·         Mae taith gwella'r Gwasanaeth yn gofyn am arweiniad strategol â ffocws a buddsoddiad cynaliadwy dros amser a'r angen i gael y model ymarfer yn gywir.  

·         Meysydd o bwysau sy’n nodweddiadol ar draws yr holl awdurdodau megis heriau recriwtio, a meysydd sy’n annodweddiadol, megis y cynnydd mewn atgyfeiriadau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant, ar lefel y nododd dadansoddiad gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus fyddai’n debygol o barhau am 2 flynedd o leiaf.

·         Niferoedd a rheolaeth achosion agored o fewn pob un o'r canolfannau lleol a chofnodi atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA).

·         Mentrau i wella recriwtio gan gynnwys prentisiaethau, recriwtio rhyngwladol, buddsoddi mewn Tyfu ein rhai ni ein hunain a gweithredu rolau Swyddogion Cymorth Gwaith Cymdeithasol a phryderon ynghylch bylchau mewn rhai gwasanaethau a dibyniaeth ar staff asiantaeth sydd angen gweithredu parhaus.

·         Y cyd-destun o amgylch y statws glas, coch, ambr, gwyrdd (BRAG) a briodolir i bob ‘maes i’w wella’ yng Nghynllun Gweithredu’r Gyfarwyddiaeth.

·         Digonolrwydd lleoliadau gan gynnwys yr agenda dileu elw a defnyddio lleoliadau heb eu cofrestru a lleoliadau y tu allan i'r sir.

·         Y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â mater blaenoriaeth camfanteisio ar blant, gan gynnwys gwaith rhanbarthol a gweithio mewn partneriaeth.

·         Yr adolygiad cyflym a mesurau i wella cyswllt dan oruchwyliaeth rhwng plant sydd â phrofiad o ofal a'u teuluoedd.

 

Diolchodd y Pwyllgor i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei amser gyda’r Awdurdod a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

 

Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

1.    Mynegwyd pryder ynghylch cynaladwyedd y gyllideb i gynnal y pwysau cyllidebol yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid dechrau'r broses o osod y gyllideb yn gynt er mwyn cael mewnbwn trawsbleidiol i gynorthwyo'r Cabinet yn yr hyn a allai fod yn Strategaeth Ariannol Tymor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33.

34.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fynychu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfod blaenorol yn Atodiad B. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am i'r adroddiad ynghylch Ymyrraeth Gynnar i Leihau nifer y Plant sydd â Phrofiad o Ofal, a Phwysau Allweddol gan gynnwys IAA, gael ei drefnu cyn gynted â phosibl a chroesawyd sesiwn briffio i'r Aelodau ar yr Adolygiad Ymarfer Plant diweddar.

 

Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys y ceisiadau uchod, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B, ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC.

35.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.