Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd R Young fudd personol yn eitem agenda 4, Gorfodaeth, oherwydd y cafodd ei lys ?yr ei gyflogi'n ddiweddar gan 3GS.
|
|
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 05/09/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 fel rhai gwir a chywir. |
|
Gwahoddwyr:
Mark Shephard, Prif Weithredwr Kelly Watson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol Cyng Richard Young, Aelod Cabinet – Cymunedau Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth Kevin Mulcahy, Rheolwr Grwp Gwasanaethau Priffyrdd Sian Hooper, Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff Rachel Jones, Rheolwr Caffael Corfforaethol Jason Evans, 3gs Rheolwr Rhanbarthol Phillip Angel, Arweinydd Tîm Rheoli Traffig a Pharcio
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau adroddiad a'i ddiben oedd cyflwyno i'r Pwyllgor ymatebion i sawl cwestiwn a godwyd gan y Pwyllgor ar wahanol bynciau yn ymwneud â Gorfodaeth.
Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau amlinelliad o'r adroddiad, ac yn dilyn hynny gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau.
Roedd un Aelod yn siomedig bod y rhan fwyaf o Hysbysiadau Cosb Benodedig rhwng Ebrill a Medi 2019, yn ymddangos yn ymwneud â thaflu sigarennau yn hytrach na thipio anghyfreithlon, taflu cyffredinol/bwyd neu beidio â chlirio baw ci a holodd a oedd yr orfodaeth yn niwtral o ran cost. Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau bod y cytundeb ar sail ffurf niwtral o ran cost ac efallai na fydd y trothwy pan gaiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) y datganiad tan flwyddyn nesaf. Cadarnhaodd bod gorfodaeth clirio baw ci wedi dechrau a bydd hyn yn cael ei amlygu mewn diweddariadau ar orfodaeth yn y dyfodol. Nododd yr her o oruchwylio taflu sbwriel ac eglurodd bod gennym bresenoldeb nawr, ac er bod swyddogion yn gorfodi taflu sigarennau yn bennaf, mae eu presenoldeb yn ataliad i daflu sbwriel arall. Eglurodd er y byddai'n hoffi gweld mwy o amrywiaeth o orfodaeth, agwedd negyddol y model hunan-ariannu yw na allwch dreulio gormod o amser yn ceisio dal rhywun. Cadarnhaodd bod tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn gyfrifoldeb i swyddogion BCBC.
Nododd yr Aelod ymateb mewn perthynas â'r fformat niwtral o ran cost, a holodd a oedd hyn yn ymdrin â chost yr adran gyfreithiol. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau bod hwn yn faich cost i'r awdurdod a chydnabu yr her mae hyn yn ei chodi o ran adnoddau. Nododd y gweddill posibl y mae 3GS yn ei gronni y tu hwnt i'w gostau gweithredu gyda rhaniad o 90:10 o blaid y cyngor.
Gofynnodd Aelod sut mae Swyddogion Gorfodi wedi'u gwisgo. Cadarnhaodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod gan y swyddogion logos a'u bod yn gwisgo camerâu.
Gofynnodd Aelod pam bod 2 Swyddog Gorfodi wedi'u disodli ym mis Medi, o ystyried yr arian a roddir i hyfforddi swyddogion. Cynghorodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod hwn yn benderfyniad a wnaed gan 3GS a oedd yn ymwneud ag un rheswm personol ac un oherwydd diffyg perfformio.
Cydnabu Aelod y ganran uchel o Hysbysiadau Cosb Benodedig mewn perthynas â thaflu sigarennau, a nododd effaith taflu bonau sigarennau ar yr amgylchedd a'r cemegion gwenwynig sy'n achosi llygredd pridd a d?r yn eu tro a phwysleisiodd agweddau cadarnhaol ar leihau taflu sigarennau.
Cyfeiriodd Aelod at y wybodaeth yngl?n â lleoliadau'r Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd rhwng Ebill - Medi 2019, ar dudalen 19 yr adroddiad, a nododd ei fod yn dangos lleoliadau prin yn unig, e.e. ymddengys na roddwyd Hysbysiadau Cosb Benodedig ym Maesteg neu'r Cymoedd? Eglurodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff ei bod hi'n ddyddiau cynnar a bod hon yn broses barhaus ond eu bod wedi targedu digwyddiadau penodol, e.e. G?yl Elvis Porthcawl. Cadarnhaodd ei bod yn hapus i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 96. |
|
Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, ei ddiben oedd cyflwyno Aelodau ag adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 i'w drafod, cymeradwyo ac i weithredu arno, ac i roi'r rhain yn nhrefn statws coch, melyn, gwyrdd o ran cwblhau unrhyw weithred ddilynol.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried yr adborth ynghlwm ac ymatebion Swyddogion fel a ddengys yn Atodiad A yr adroddiad ac wedi neilltuo statws coch, melyn, gwyrdd i'r meysydd gwaith a nodwyd:
Nododd Aelodau yn adran 7.5.2.1 yr ymgynghoriad y canran uchel o ddefnyddwyr hamdden cyffredinol sy'n defnyddio meysydd chwarae a/neu bafiliynau'r cyngor. Mynegodd Aelodau bryderon y gallai clwb sy'n meddiannu cyfleuster ddewis gau'r cyfleuster hwn i ffwrdd, gan wahardd y cyhoedd. Sut bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol os yw mannau agored cyhoeddus yn cael eu cau i ffwrdd - Gwyrdd
Dangosodd yr ymgynghoriad ganran uchel o gefnogwyr tuag at feysydd chwarae yn cael eu cynnal a'u cadw gan gynghorau tref a chymuned, ond yn anffodus, nid oedd y cwestiwn yn nodi y gallai hyn arwain at archebiant treth y cyngor lleol yn cynyddu i fynd i'r afael â chostau cynnal a chadw. Felly, nid yw'n glir pa mor ddilys fyddai'r gefnogaeth hon petai'r cwestiwn wedi'i egluro'n fwy manwl - Gwyrdd
Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r gostyngiad arfaethedig yn amlder torri gwair mannau penodol lle bo'n briodol, ond pwysleisiwyd nad yw gadael rhai ardaloedd heb eu torri yn cymryd lle rheoli llai o dorri i gyfoethogi bioamrywiaeth - Coch
Holodd aelod a fyddai meysydd chwarae yn cael eu hailwampio neu eu gwella cyn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref neu Gymuned - Gwyrdd
Mynegwyd pryder yngl?n â sut fydd safonau y gwaith cynnal a chadw yn cael eu monitro yn y dyfodol os oes ystod o sefydliadau yn rheoli safleoedd i safonau gwahanol. Mae perygl i'r ased ddirywio'n raddol yn sgil diffyg gwaith cynnal a chadw neu waith cynnal a chadw gwael / anghydlynol ac felly gall y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol golli'r cyfleuster. Pa gamau diogelu sydd yn eu lle i atal hyn a sut mae hyn yn mynd i weithio gyda llai o staff ac adnoddau yn BCBC - Gwyrdd
Awgrymodd aelodau yr opsiwn o wasanaethau cyfunol yn cael eu prynu'n ôl gan BCBC i gynnal a chadw meysydd chwarae a gellir trafod hyn ar agenda TCC yn y dyfodol. Nodwyd na fyddai gan TCC y staff cymwys i ymgymryd â'r arolygon rheolaidd a'r gwaith cynnal a chadw - Gwyrdd
Nododd aelodau y byddai'r archwiliad blynyddol a'r arolygiad annibynnol sydd angen eu cyflawni ar bob maes chwarae bob 12 mis yn fwy cost effeithlon petaent yn cael eu cydlynu gan BCBC, gan godi'r tâl priodol ar y cyngor tref neu gymuned - Gwyrdd
Mynegwyd pryder bod cyfeiriad yr adroddiad yn wynebu cyfarfod y MTFS, lle nad yw hyn yn cydymffurfio mewn gwirionedd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Gwyrdd
Mynegwyd pryder bod yr adroddiad yn paratoi at gael gwared ar y cymhorthdal sy'n bodoli eisoes ar gyfer defnyddio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 97. |
|
Diweddariad ar y Blaenraglen Waith PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad sy'n:
a) Cyflwyno eitemau blaenoriaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, yn cynnwys yr eitem nesaf i'w ddirprwyo i'r Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3; b) Gofyn i'r Pwyllgor adnabod (os unrhyw rai) eitemau i'w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a gytunwyd arno ymlaen llaw.
Ynghlwm ag Atodiad A yr adroddiad oedd y blaenraglen waith cyffredinol i'r Pwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu, a oedd yn cynnwys pynciau blaenoriaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y cyfuniad nesaf o Bwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau a dybiwyd yn bwysig i'w blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.
Cyflwynodd y Swyddog Craffu Flaenraglen Waith a rhoi gwybod i'r Pwyllgor mai mewn perthynas â cham nesaf cyfarfodydd y pwyllgor, bydd y pwyllgor yn ystyried yr eitem ar y Gyllideb sydd wedi'i hamserlennu ar gyfer mis Ionawr. Rhoddodd gwybod i'r pwyllgor fodd bynnag y derbyniwyd e-bost gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro yn rhoi gwybod i'r pwyllgor bod LlC wedi oedi'r dyddiadau sefydlu yn sgil yr etholiad, felly mae'n hynod debygol y bydd angen i'r cyfarfodydd ym mis Ionawr newid eto.
Cytunodd aelodau i gadw cyfarfod Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 sydd wedi'i drefnu ar gyfer 27 Ionawr yn rhydd am unrhyw newid posibl i gyfarfodydd y gyllideb. Cytunodd yr aelodau i ystyried yr eitem ar Strategaeth Ddigartrefedd (o bosibl ochr yn ochr â'r Grant Cefnogi Pobl a Llety Brys) ym Mawrth a'r eitem yngl?n ag Eiddo Gwag yn Ebrill/Mai.
Yn olaf, atgoffwyd aelodau petai ganddynt unrhyw eitemau y dymunant eu cynnig i'w hystyried gan yr adran graffu, i gwblhau'r ffurflen meini prawf a'i hanfon at swyddogion craffu i'w ehangu ymhellach.
PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim
Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am
|