Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Mynegodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda – Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2019-20 i 2022-23, am fod ganddi blentyn mewn addysg uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol oedd yn derbyn cludiant o'r cartref i'r ysgol.
|
|
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 73 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/11/2018
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6 Tachwedd 2018 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 PDF 242 KB Gwahoddedigion: Pob Aelod Cabinet Pob CMB Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar Jackie Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant
Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y Strategaeth Gyllido Tymor Canol ddrafft 2019-20 i 2022-23 er mwyn i’r Aelodau ystyried y wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a phenderfynu ar sylwadau neu argymhellion i’w cyfuno a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet fel rhan o broses ymgynghori’r gyllideb. Ychwanegodd y byddai’r setliad terfynol ar gael ar 19 Rhagfyr 2018 ond ei bod hi, yn y cyfamser, yn gofyn i’r Pwyllgor flaenoriaethu’r gostyngiadau arfaethedig, ystyried newidiadau i’r Dreth Gyngor neu symud ymlaen gyda’r gostyngiadau oedd wedi eu disgrifio yn yr adroddiad.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd J Spanswick, Cadeirydd SOSC3, i roi sylwadau ar dabl 7 yr adroddiad, y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2019-20. Eglurodd ef ei fod yn gweld y gwahaniaeth rhwng y toriadau yn rhwystredig. Anghytunai ag eitem pwysau‘r gyllideb yn ymwneud â Hawliau Tramwy a’r cynigion yn ymwneud â thoriadau pellach i wasanaethau glanhau eraill (COM41 a COM41a) fyddai’n arwain at wneud y gwasanaeth yn adweithiol yn unig. Byddai hyn yn golygu na fyddai llawer o gwynion yn derbyn sylw ac na fyddai atgyfeiriadau yn cael eu gweithredu. Dewis arall yn lle hyn fyddai codi taliadau. Hoffai ef weld unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i leihau toriadau i gyfleusterau hamdden awyr agored a chaeau chwarae ac i’r gwasanaethau hyn gael eu hamddiffyn o hyn ymlaen.
Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai penderfyniad gwleidyddol oedd lefel y toriadau, yn seiliedig ar flaenoriaethau, a’i bod yn anochel y byddai rhai gwasanaethau yn wynebu toriadau mwy nag eraill. Gellid cyflawni rhai arbedion drwy ffyrdd doethach o weithio ond mewn meysydd eraill byddai’n rhaid gwneud toriadau. Byddai effaith ar lanhau strydoedd ond gellid lliniaru’r effaith drwy weithio’n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned.
Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod pwysau’r gyllideb yn ymwneud â “Hawliau Tramwy - dyletswydd statudol i ymgymryd ag adolygiad o ddeng mlynedd gyntaf Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Cyngor erbyn mis Hydref 2019” yn ganlyniad toriadau sylweddol a wnaed yn y maes hwnnw gan adael tîm bychan gyda baich gwaith mawr. Nid oedd yn realistig disgwyl i’r tîm hwnnw gwblhau’r gwaith angenrheidiol i wneud cais am gyllid a phe na châi’r gwaith ei gyflawni y gallent golli allan ar gyllid yn y dyfodol.
Gofynnodd Aelod am y prif ganlyniadau ar gyfer y gyfarwyddiaeth hon o’r ymgynghoriad. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 nad oedd yr holl ganfyddiadau yn ei meddiant ond y gallai roi amlinelliad byr. · Teimlai 50% o’r atebwyr y gellid cwtogi ar y gwasanaethau diwylliannol. · Dywedodd 60% o’r atebwyr y byddent yn fodlon talu mwy i gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon, pafiliynau a pharciau. · Dywedodd 79% o’r atebwyr y dylai dalwyr Bathodynnau Glas dalu am barcio. · Credai 48% o’r atebwyr y dylai’r Cyngor edrych ar y dewis o dalu am symudedd at siopau. · Anghytunai 42% o’r atebwyr â’r cynnig i dynnu cymorthdaliadau oddi ar wasanaethau bysiau. · Cytunai 46% o’r atebwyr y dylid cau’r orsaf fysiau i wneud arbedion yn y gyllideb. · Roedd 53% o’r atebwyr yn fodlon talu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 94. |
|
Diweddariad Rhaglen Gwaith PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adborth o gyfarfodydd blaenorol a nododd y Pwyllgor y wybodaeth gan gynnwys unrhyw ymatebion oedd yn weddill.
Awgrymodd yr Aelodau flaenoriaethu eitemau ar gyfer pwyllgorau fis ymlaen llaw er mwyn cymryd i ystyriaeth unrhyw eitemau hwyr a allai godi. Esboniodd y Swyddog Craffu fod ar y swyddogion angen mwy o rybudd i baratoi adroddiadau ac awgrymodd y byddai’n haws gweithio gyda 2 fis.
Gofynnodd yr aelodau, pan fyddai eitem CAHMS yn cael ei hystyried, i Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei wahodd i fod yn bresennol. Esboniodd y Swyddog Craffu fod cyrff eraill eisoes yn craffu ar adolygiad y Prosiect Maethu ac y dylid ei gadw ar y rhaglen waith i'r dyfodol fel eitem o wybodaeth.
Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer y Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc:
24 Ionawr 2019 SOSC 3 Proses Ddiwygiedig Trosglwyddo Asedau Cymunedol 29 Ionawr 2019 SOSC 2 Cynllun Taliadau Uniongyrchol 30 Ionawr 2019 SOSC 1 Deilliannau Addysg 26 Chwefror 2019 SOSC 3 Adeiladau Gwag 28 Chwefror 2019 SOSC 1 Grant Rhaglen Cefnogi Pobl 27 Mawrth 2019 SOSC 2 CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |