Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Heidi Bennett ddatgan buddiant personol yn eitem 6, Hunanasesiad Corfforaethol 2022-23, gan fod y sefydliad y mae’n gweithio iddo yn cael ei grybwyll mewn perthynas â gwaith atal a lles, a buddiant rhagfarnus yn eitem 8, fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 230 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 31 01 23
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc, dyddiedig 31 Ionawr 2023, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Monitro Cyllideb 2023-24 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 PDF 347 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Mark Shephard - Prif Weithredwr Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor ar y 30ain o Fehefin 2023.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
Ar draws y Cyngor · Cywirdeb disgwyliedig y rhagamcanion ariannol a heriau lefelau chwyddiant digynsail. · Y posibilrwydd o fodelu senarios ar gyfer casglu’r dreth gyngor a chyfraddau llog, a dulliau gwahanol a heriol o fynd i’r afael â’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb. · Y posibilrwydd o rewi recriwtio, rheoli cyllidebau ar lefel y Gyfarwyddiaeth a’r Gorfforaeth a gwerthuso Gwasanaethau. · Y gobaith o feincnodi yn erbyn profiad awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. · Adolygu a defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant · Mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant, diweddariad ynghylch gofal preswyl annibynnol a’r cynnydd anghyffredin yng nghyfanswm a chymhlethdod y galw. · Mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion, effaith achosion mwy cymhleth a phwysigrwydd gwasanaethau atal ac ailalluogi.
Cymunedau · Diweddariad yngl?n â’r ymgynghoriad ynghylch codi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau Glas am barcio, a gweithredu'r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr. · Eglurder ynghylch yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y bwriad i gau pob un o safleoedd y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol am un diwrnod gwaith yr wythnos. · Effaith y gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb ar feysydd eraill o'r Gwasanaeth.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd · Rheoli cyllidebau ysgolion sy'n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau a'r rhai sy'n rhagweld gwarged ar hyn o bryd. · Effaith ddisgwyliedig Ysgol newydd Heronsbridge ac adolygiad capasiti Ysgol Bryn Castell ar gyllideb y cymorth i ddysgwyr y tu allan i'r sir. · Effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 ar y gallu i ddarparu lleoedd â thâl ar fysiau ysgol. · Cymhwysedd ar gyfer cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref i’r ysgol, yr oedi cyn cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth Cymru a her y cynnydd yng nghostau tanwydd a darparwyr. · Y gorwariant ym maes arlwyo, anwadalrwydd y costau sy’n ymwneud â darparu Prydau Ysgol Gynradd i bawb, a pha gostau sy’n cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.
Y Prif Weithredwr · A fyddai'r tanwariant presennol yn cael ei glustnodi ar gyfer tai a digartrefedd a'r cynnydd a ragwelir yn y galw.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
2. Graff yn dangos y cynnydd anghyffredin yn y galw am ofal cymdeithasol plant dros gyfnod o 3 blynedd.
3. Copïau o'r astudiaethau achos sy'n dangos y cymhlethdod a welir ym maes gofal cymdeithasol oedolion.
4. Er ei fod yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar yn y flwyddyn i ddarparu rhagamcaniad realistig o incwm y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gofynnodd y Pwyllgor a ellid darparu model o’r achos gorau, yr achos gwaethaf a’r senario a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 72. |
|
Perfformiad Chwarter 4 2022-23 PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi trosolwg i’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn erbyn amcanion y Cynllun Corfforaethol yn Chwarter 4 2022-23, sef y sefyllfa alldro derfynol ar ddiwedd y flwyddyn.
Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Perfformiad Corfforaethol a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Mwy o her ar gyfer targedau a fethwyd yn sylweddol neu'n gyson, cynlluniau gweithredu a sicrhau adrodd yn gyson. · Y posibilrwydd o raddio/codio lliw o fewn statws Coch, Ambr, Gwyrdd (RAG).
Absenoldeb Salwch. · Absenoldeb salwch cysylltiedig â straen, cymorth i les staff ac agwedd gyfannol tuag at bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. · Y duedd a'r ffactorau lliniarol o ran absenoldeb salwch a briodolir i anhwylderau cyhyrysgerbydol.
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant · Y duedd a rheolaeth ar nifer y plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. · Cost staff asiantaeth o gymharu â gweithwyr llawn amser cyfatebol. · Diweddariad ar y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol, a nifer y rhai sydd wedi gadael gofal sydd mewn addysg neu gyflogaeth. · Digonolrwydd lleoliadau a’r defnydd o leoliadau heb eu cofrestru.
Y Prif Weithredwr · Y Strategaeth Ddigartrefedd a digonolrwydd y cynllunio ar gyfer y cynnydd yn y galw a ddisgwylid. · Eiddo gwag, camau gorfodi a’r cymorth sydd ar gael i adfer eiddo i’w ddefnyddio eto. · Y gobaith o ailagor y siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg. · Methiant TGCh diweddar y Cyngor, cadernid cynlluniau seilwaith a pharhad busnes y Cyngor, diogelwch seiber a’r risg sylweddol a achosir gan ymosodiad seiber posibl.
Cymunedau · Y broses ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol a rolau Cynghorau Cymuned. · Nifer y busnesau newydd sydd wedi elwa o gael cymorth.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd · Cywirdeb y data a chymesuredd a thegwch yr adfachu ar gyfer absenoldeb salwch, yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn hytrach na niferoedd staff.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
1. Dadansoddiad, fesul Cyfarwyddiaeth, o’r eitemau a ganlyn:
a. cost staff asiantaeth; a’r b.
gwahaniaeth yn y gost rhwng gweithiwr asiantaeth ac
Aelod o staff llawn amser cyfatebol. 2. Gyda golwg ar y cymorth a ddarperir i fusnesau newydd, dadansoddiad o’r nifer sydd wedi elwa o gyngor, grantiau cychwyn neu gymorth arall.
3. Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith bod yr adfachiadau ar gyfer absenoldeb salwch mewn ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn hytrach na niferoedd staff, a chlywyd bod Fforwm Cyllideb yr Ysgolion wedi gofyn am i ystyriaeth gael ei rhoi i'w bwysoli'n wahanol. Gofynnodd y Pwyllgor felly am y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddai Swyddogion Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Swyddogion Cyllid wedi trafod y mater a chyn y Fforwm nesaf.
Manylion dewisiadau oedd yn cael eu hystyried i alluogi'r siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg i ailagor. |
|
Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 PDF 153 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd
Mark Shephard - Prif Weithredwr
Alex Rawlin - Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar ail adroddiad hunanasesu corfforaethol y Cyngor a’i ddyfarniadau, a gofyn am sylwadau ar yr adroddiad drafft.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y ffactorau sy’n cyfrannu at ddyfarniad cyffredinol yr Hunanasesiad o ‘Digonol’. · Meddu ar ddiwylliant gonest, agored a heriol gyda Dangosyddion sy'n gyrru tuag at berfformiad gwell. · Disgwyliad o fwy o fanylder a phwyslais ar gynaladwyedd a tharged Carbon Sero Net. · Diweddariad yngl?n â chyfraniad y Cyngor tuag at adfer eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto, nifer y tai gwag a’r disgwyliad y byddant yn cael eu defnyddio eto cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
Adroddiad diweddaru, yn manylu ar ganlyniad partneriaeth y Cyngor gyda Chymoedd i’r Arfordir a chyfraniad o £500,000 tuag at adfer 35 eiddo gwag hirdymor i’w defnyddio eto. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r adroddiad, a'i ddiben oedd diweddaru'r Pwyllgor yngl?n â’r trefniadau craffu ar y cyd, arfaethedig, a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg (BGC), yn dilyn trosglwyddo i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cwm Taf Morgannwg a gofyn am enwebu pum Aelod ac un dirprwy Aelod o’r Pwyllgor, yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor, cyn belled ag y bo’n ymarferol, i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf Morgannwg (JOSC).
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn enwebu’r Aelodau a ganlyn i Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf Morgannwg:
• Y Cynghorydd Amanda Williams (enwebiad Gr?p Aelodau Annibynnol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr); • Y Cynghorydd Alex Williams (enwebiad Gr?p y Gynghrair Ddemocrataidd); a’r • Cynghorydd Freya Bletsoe (Dirprwy Aelod a enwebwyd o Gr?p Aelodau Annibynnol Sir Pen-y-bont ar Ogwr i fynychu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pan na fydd un o'r pum Aelod ar gael);
a
Chytunodd y Pwyllgor i ohirio enwebiadau’r tri Aelod sy’n weddill o’r Gr?p Llafur tan ei gyfarfod ar 4 Medi 2023. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 179 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.6 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn 2022-23 yn Atodiad B, a’r rheiny yn y cyfarfod blaenorol 2023-24 yn Atodiad C. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn eu hystyried yn y cylch diweddar o gyfarfodydd SOSC.
Bu’r Aelodau'n trafod y methiant TGCh diweddar a gofynnwyd am i'r adroddiad ynghylch Diogelwch Seiber gael ei amserlennu ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Medi 2023, a bod Cynlluniau Parhad Busnes TGCh i gael eu cynnwys yn yr adroddiad.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dirprwyo'r eitem ar y Gwersi a Ddysgwyd wrth Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 ei hystyried.
Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 3.6, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys yr eitemau uchod, yn nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn Atodiadau B ac C ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc, yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |