Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mercher, 9fed Mehefin, 2021 09:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Ethol Cadeirydd pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Ethol y Cynghorydd K L Rowlands yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol am y Flwyddyn Ddinesig.

16.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

17.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 142 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/01/21, 21/01/21 a 25/01/21

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod Cofnodion cyfarfod Cyfunol yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dyddiedig 20, 21 a 25 Ionawr 2021, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

18.

Argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol ac Ymateb Cynnydd y Cabinet. pdf eicon PDF 77 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David – Arweinydd

Mark Shephard - Prif Weithredwr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu ymateb cynnydd y Cabinet i Argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol, sydd ynghlwm yn Atodiad A, ac Argymhellion diweddaraf y Panel Adfer Trawsbleidiol, sydd ynghlwm yn Atodiad B, i’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

Gwnaeth Aelod bwynt cyffredinol gyda golwg ar yr argymhellion a gofynnodd sut y byddai’r Pwyllgor yn sicrhau bod yr argymhellion, oedd wedi cael eu derbyn gan y Cabinet a’u cau, neu oedd yn dal i fynd ymlaen, yn cael eu holrhain wrth symud ymlaen. Sut byddai’r Pwyllgor yn mesur llwyddiant wrth symud ymlaen ac i ba raddau yr oedd modd cyflawni yn erbyn argymhellion y panel.

 

Teimlai’r Prif Weithredwr fod y cwestiwn hwn o gymorth a rhoddodd gyd-destun pwrpas y panel yn gryno. Teimlai ef y dylai’r materion a godid gan y panel, wrth symud ymlaen, ddod yn rhan o’r busnes arferol, ac y dylai’r materion hynny oedd yn fwy perthnasol gael eu gweld fel rhan o weithgaredd craffu arferol, e.e. tai a digartrefedd, egwyddorion cyngor cydweithredol, ac yn y blaen. Fel rhan o adferiad y cyngor, roedd yna bethau newydd ac efallai bethau pwysicach o bosibl, i ganolbwyntio a threulio amser arnynt yn awr megis iechyd a chydraddoldebau, gwrth-dlodi, digidol, y model newydd o weithredu ar gyfer y cyngor, iechyd meddwl ac agenda 2030, oedd wedi codi allan o’r pandemig, a dylid rhoi blaenoriaeth i’r rhain, yn hytrach nag i un neu ddau o bethau oedd yn anochel yn berthnasol iawn efallai ar y pryd. Roedd hi i fyny i’r Aelodau ddethol a dewis rhai o’r argymhellion oedd yn bod eisoes ond hefyd efallai rai newydd lle roedd yr elfennau hynny o’r adferiad yn haeddu mwy o ffocws ac y gellid eu codi fel rhan o’r agenda graffu arferol ar gyfer pob un o’r pwyllgorau.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas ag argymhelliad 1, a fyddai yna ail gymesuro cyllidebau i ganiatáu i Gyfarwyddiaeth Cymunedau ail wyrddio neu ailwampio lleoedd eraill ar wahân i Halo, Awen a’r parciau a’r caeau chwarae.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid i’r ymateb fod yn un cyfannol, ac yn sicr fod rhan o'r ymateb yn ymwneud â chanolfannau hamdden, a chyfleusterau diwylliant a chwaraeon i ysgolion, ond y bwriad hefyd oedd ceisio creu mwy o leoedd gwyrdd, lle bo modd, yng nghanol trefi. Cydnabyddid bod gwerth diwylliant, hamdden a mannau gwyrdd wedi bod yn allweddol yn y pandemig a bod llwybrau troed hefyd wedi bod yn anhygoel o werthfawr. O ran y gyllideb, yn nwylo’r Aelodau roedd hyn a mater i’r Cyngor ydoedd, pan fyddai cyllidebau yn cael eu pennu. Fodd bynnag, byddai argymhellion y Panel Adfer yn dylanwadu ar brosesau’r gyllideb wrth symud ymlaen.  Efallai y bydd rhai pethau, a ystyrid yn hanesyddol yn llai pwysig, yn dod yn bethau i fuddsoddi ynddynt ac ailganolbwyntio arnynt, yn enwedig o ystyried y newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Roed buddsoddi mewn diwylliant, hamdden a mannau gwyrdd yn sicr yn cael ei gydnabod eisoes, a byddai hynny’n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18.

19.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel un i gael ei wahodd i gyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:              Enwebu’r Cynghorydd T Thomas fel cynrychiolydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc i eistedd ar wahoddiad ar Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

20.

Enwebiad i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoliadol adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn i’r Pwyllgor enwebu tri Aelod i eistedd ar Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau, ac yn dilyn hyn

 

PENDERFYNWYD:            Bod yr Aelodau canlynol yn cael eu henwebu i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

 

Y Cynghorydd K L Rowlands

Y Cynghorydd RMI Shaw

Y Cynghorydd J C Spanswick

 

21.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu amlinelliad drafft o’r Flaenraglen Waith (Atodiad A) arfaethedig i’r Pwyllgor i’w thrafod a’i hystyried; gofynnodd am unrhyw wybodaeth benodol yr oedd y Pwyllgor yn dymuno iddi gael ei chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y gwahoddedigion y dymunent iddynt fod yn bresennol; a gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gadw’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.6 mewn cof; gofynnodd i’r Pwyllgor nodi yr adroddid am y Blaenraglenni Gwaith drafft arfaethedig ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, ynghyd â’r sylwadau oddi wrth bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn dilyn eu hystyried yn eu cyfarfodydd Pwyllgor ym mis Mehefin.

 

Argymhellion:

 

Ar ôl ystyried y Flaenraglen Waith, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

  1. Diwygio Templed Corfforaethol yr adroddiadau i Craffu i gynnwys sylwebaeth ar gaffael moesegol a’r agenda ddatgarboneiddio, a rhoi’r ystyriaeth ddyledus i ddeddf partneriaeth y gweithlu.

 

  1. Diwygio Templed Corfforaethol yr adroddiadau i Craffu i gynnwys adran ar gyfer crynodeb gweithredol i bob adroddiad.

 

Nid oedd eitemau pellach i’w hystyried ar gyfer y Flaenraglen Waith, gan gadw’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.6 mewn cof a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chytuno ar amlinelliad drafft arfaethedig y Flaenraglen Waith yn Atodiad A ac wedi nodi yr adroddid am y Blaenraglenni Gwaith drafft arfaethedig ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor yn dilyn cylch cyfarfodydd Pwyllgor mis Mehefin.

 

22.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim