Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Llun, 7fed Medi, 2020 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

176.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Nicole Burnett fuddiant personol gan ei bod yn gadeirydd Neuadd Evergreen.

177.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 124 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 4/11/19 and 24/1/20

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:          Cymeradwywyd Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2019 yn amodol ar y newid canlynol: Datganodd y Cynghorydd Blundell fuddiant personol oherwydd ei fod yn aelod di-chwarae o’r Cardiff Saracens a oedd yn yr un gynghrair â Chlwb Rygbi Bracla.

 

                              Cymeradwywyd Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2020.

178.

Panel Adfer Trawsbleidiol - Canfyddiadau ac Argymhellion Cam 1 pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Cadeirydd y Panel Adfer Trawsbleidiol â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cyflwyno Canfyddiadau ac Argymhellion Cam 1 y Panel Adfer Trawsbleidiol i'r Pwyllgor. Nododd Adran 2 y cysylltiad ag amcanion llesiant corfforaethol a blaenoriaethau corfforaethol eraill. Rhoddodd adran 3 y cefndir mewn perthynas â'r pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo, a sefydlu’r Panel Adfer Trawsbleidiol ac aelodaeth ynghyd ag Aelodau ychwanegol a siaradwyr gwadd a wahoddwyd o’r ardaloedd dethol yr oedd y Panel am ymchwilio ymhellach iddynt. Roedd Cam 1 y Panel Adfer Trawsbleidiol wedi mabwysiadu dull strwythuredig o ddethol meysydd allweddol o'r rhai a nodwyd i gael blaenoriaeth i fwydo i mewn i'r broses adfer ac wedi nodi materion allweddol yn dilyn archwiliad. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nid oedd unrhyw oblygiadau ariannol yn uniongyrchol gysylltiedig â'r adroddiad hwn. Roedd Cadeirydd y Panel Adfer Trawsbleidiol am ddiolch i’r holl Aelodau dan sylw am yr hyn a ystyriai’n ddull cyfranogol strwythuredig a gobeithiai y byddai’n parhau.

 

Roedd Is-gadeirydd y Panel Adfer Trawsbleidiol yn dymuno adleisio geiriau Cadeirydd y Panel Adfer. Cyfeiriodd at Argymhelliad 8 a’r ffaith bod angen iddo fod yn fwy eglur drwy argymell Cynllun Tai yn Gyntaf a oedd yn rhoi tai i bobl agored i niwed cyn mynd i'r afael ag unrhyw anghenion pellach gan nad oedd yn credu bod cynllun o'r fath ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cadarnhaodd Cadeirydd y Panel Adfer Trawsbleidiol fod V2C yn gweithredu Cynllun Tai yn Gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Cymerodd y Cadeirydd bwynt yr Aelod ond teimlai y byddai'n annheg gwneud unrhyw beth ymhellach gyda'r argymhellion o ystyried mai'r rhain oedd yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Panel ac na chodwyd y pwynt yng Nghyfarfod y Panel Adfer Trawsbleidiol.

 

Yna cyfeiriodd yr Aelod at Argymhelliad 16. Er ei fod yn cytuno mewn egwyddor ei bod yn bwysig i'r Awdurdod gydweithio ag Awdurdodau eraill, roedd yn pryderu nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd â nodweddion y cynghorau dinesg a ffurfiodd y fenter gydweithredol. Teimlai ei bod yn well i Ben-y-bont ar Ogwr gydweithio ag awdurdodau cyfagos. At hynny, nododd fod gan Gymru gyfreithiau ac egwyddorion gwahanol i'w chymheiriaid yn Lloegr a bod angen parchu datganoli yng Nghymru.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelod fod yr argymhellion yn awr i’w hystyried gan y Cabinet, a fyddai'n ymateb yn briodol pe bai'n amlwg nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd â menter gydweithredol. Nododd y Cadeirydd y gallai'r Pwyllgor ofyn i'r Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am eu canfyddiadau pe baent yn bwrw ymlaen â'r argymhelliad. Cytunodd yr Aelod ar hyn.

 

Nododd Aelod fod y Panel Adfer Trawsbleidiol wedi bod yn ddefnyddiol o ran ei amlder a'i gynnwys. Dangosodd y gwaith a wnaed gan y Panel yr hyn y gallai Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ei gyflawni ac roedd yn hapus iawn â'r ffordd yr oedd wedi gweithio hyd yma ac yn dymuno iddo barhau. Roedd yn llwyr gefnogi'r argymhellion, yn enwedig Argymhelliad 1. Teimlai nad oedd cynaliadwyedd a gwerth diwylliant, hamdden a mannau gwyrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 178.

179.

Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei Amcanion Llesiant ar gyfer 2019-20 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn pryderu bod yr adroddiad wedi'i anfon fel adroddiad gwybodaeth yn cynnwys eitemau statws coch, a byddai wedi bod yn fuddiol gofyn cwestiynau ar yr eitemau hynny. Ymddiheurodd am nad oedd swyddog yn bresennol. Gofynnodd a oedd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr, fel eitem Pwyllgor wrth symud ymlaen, y dylai Cyfarwyddwyr fod yn bresennol i roi trosolwg o'u hardal ac i fynd drwy eitemau statws coch ac ambr. Ei farn bersonol ef oedd y byddai hyn yn creu craffu cryfach a mwy o gyfle i Aelodau gymryd rhan ac i ddeall y rhesymau pam nad oedd targedau wedi'u cyrraedd neu, mewn rhai achosion, y rhagorwyd arnynt. Nododd y Prif Weithredwr, gyda chaniatâd y Cadeirydd, pe bai hwn yn argymhelliad yr oedd yr Aelodau'n dymuno'i wneud, y gallai'r Cyfarwyddwyr a'r Prif Weithredwr fynychu'r Pwyllgor yn flynyddol er mwyn ateb y cwestiynau manwl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr. Dywedodd y dylai fod cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau i'r Cyfarwyddwyr/cynrychiolydd mwyaf priodol i egluro beth oedd yn cael ei wneud a pha dargedau oedd yn cael eu cyrraedd. Roedd angen mwy o graffu ar eitemau statws coch, a heb ofyn cwestiynau nid oedd craffu'n cael ei wneud fel y dylai. Nid oedd angen eglurhad pellach o eitemau statws gwyrdd, h.y. lle'r oedd targedau'n cael eu cyrraedd.

 

Dywedodd yr Aelodau y byddent am i'r Cyfarwyddwyr/cynrychiolydd mwyaf priodol ateb cwestiynau ar eitemau adrodd nad oeddent yn symud ymlaen yn y dyfodol. Cytunodd y Prif Weithredwr i ddatblygu hyn.

 

PENDERFYNIAD:          Nododd y Pwyllgor yr adroddiad perfformiad, a chytunodd y dylai Cyfarwyddwyr/y person mwyaf priodol fod yn bresennol i ateb cwestiynau am y meysydd hynny nad oeddent yn cyflawni mewn adroddiadau perfformiad yn y dyfodol.

180.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.