Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Llun, 24ain Gorffennaf, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Heidi Bennett ddatgan buddiant personol yn eitem 6, Hunanasesiad Corfforaethol 2022-23, gan fod y sefydliad y mae’n gweithio iddo yn cael ei grybwyll mewn perthynas â gwaith atal a lles, a buddiant rhagfarnus yn eitem 8, fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

71.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 230 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 31 01 23

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc, dyddiedig 31 Ionawr 2023, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

72.

Monitro Cyllideb 2023-24 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 pdf eicon PDF 347 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd

Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Carys Lord  - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol


 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor ar y 30ain o Fehefin 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

Ar draws y Cyngor

·         Cywirdeb disgwyliedig y rhagamcanion ariannol a heriau lefelau chwyddiant digynsail.

·         Y posibilrwydd o fodelu senarios ar gyfer casglu’r dreth gyngor a chyfraddau llog, a dulliau gwahanol a heriol o fynd i’r afael â’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb.

·         Y posibilrwydd o rewi recriwtio, rheoli cyllidebau ar lefel y Gyfarwyddiaeth a’r Gorfforaeth a gwerthuso Gwasanaethau.

·         Y gobaith o feincnodi yn erbyn profiad awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

·         Adolygu a defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

·         Mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant, diweddariad ynghylch gofal preswyl annibynnol a’r cynnydd anghyffredin yng nghyfanswm a chymhlethdod y galw.

·         Mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion, effaith achosion mwy cymhleth a phwysigrwydd gwasanaethau atal ac ailalluogi.

 

Cymunedau

·         Diweddariad yngl?n â’r ymgynghoriad ynghylch codi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau Glas am barcio, a gweithredu'r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr.

·         Eglurder ynghylch yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y bwriad i gau pob un o safleoedd y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol am un diwrnod gwaith yr wythnos.

·         Effaith y gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb ar feysydd eraill o'r Gwasanaeth.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

·         Rheoli cyllidebau ysgolion sy'n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau a'r rhai sy'n rhagweld gwarged ar hyn o bryd. 

·         Effaith ddisgwyliedig Ysgol newydd Heronsbridge ac adolygiad capasiti Ysgol Bryn Castell ar  gyllideb y cymorth i ddysgwyr y tu allan i'r sir.

·         Effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 ar y gallu i ddarparu lleoedd â thâl ar fysiau ysgol.

·         Cymhwysedd ar gyfer cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref i’r ysgol, yr oedi cyn cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth Cymru a her y cynnydd yng nghostau tanwydd a darparwyr.

·         Y gorwariant ym maes arlwyo, anwadalrwydd y costau sy’n ymwneud â darparu Prydau Ysgol Gynradd i bawb, a pha gostau sy’n cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. 

 

Y Prif Weithredwr

·         A fyddai'r tanwariant presennol yn cael ei glustnodi ar gyfer tai a digartrefedd a'r cynnydd a ragwelir yn y galw.

 

PENDERFYNWYD:        Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

  1. Ystyried gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr lleol i brynu ffrwythau a llysiau ar gyfer arlwyo mewn ysgolion, am gost is o bosibl.

 

a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

2.    Graff yn dangos y cynnydd anghyffredin yn y galw am ofal cymdeithasol plant dros gyfnod o 3 blynedd.

 

3.    Copïau o'r astudiaethau achos sy'n dangos y cymhlethdod a welir ym maes gofal cymdeithasol oedolion.

 

4.    Er ei fod yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar yn y flwyddyn i ddarparu rhagamcaniad realistig o incwm y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gofynnodd y Pwyllgor a ellid darparu model o’r achos gorau, yr achos gwaethaf a’r senario a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 72.

73.

Perfformiad Chwarter 4 2022-23 pdf eicon PDF 217 KB

Gwahoddwyr:

 

Fel uchod yn Eitem 4 a

 

Alex Rawlin - Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi trosolwg i’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn erbyn amcanion y Cynllun Corfforaethol yn Chwarter 4 2022-23, sef y sefyllfa alldro derfynol ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Perfformiad Corfforaethol a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Mwy o her ar gyfer targedau a fethwyd yn sylweddol neu'n gyson, cynlluniau gweithredu a sicrhau adrodd yn gyson.

·         Y posibilrwydd o raddio/codio lliw o fewn statws Coch, Ambr, Gwyrdd (RAG).

 

Absenoldeb Salwch.

·         Absenoldeb salwch cysylltiedig â straen, cymorth i les staff ac agwedd gyfannol tuag at bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith.

·         Y duedd a'r ffactorau lliniarol o ran absenoldeb salwch a briodolir i anhwylderau cyhyrysgerbydol.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

·         Y duedd a rheolaeth ar nifer y plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

·         Cost staff asiantaeth o gymharu â gweithwyr llawn amser cyfatebol.

·         Diweddariad ar y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol, a nifer y rhai sydd wedi gadael gofal sydd mewn addysg neu gyflogaeth. 

·         Digonolrwydd lleoliadau a’r defnydd o leoliadau heb eu cofrestru.

 

Y Prif Weithredwr

·         Y Strategaeth Ddigartrefedd a digonolrwydd y cynllunio ar gyfer y cynnydd yn y galw a ddisgwylid.

·         Eiddo gwag, camau gorfodi a’r cymorth sydd ar gael i adfer eiddo i’w ddefnyddio eto.

·         Y gobaith o ailagor y siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg.

·         Methiant TGCh diweddar y Cyngor, cadernid cynlluniau seilwaith a pharhad busnes y Cyngor, diogelwch seiber a’r risg sylweddol a achosir gan ymosodiad seiber posibl.

 

Cymunedau

·         Y broses ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol a rolau Cynghorau Cymuned.

·         Nifer y busnesau newydd sydd wedi elwa o gael cymorth.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

·         Cywirdeb y data a chymesuredd a thegwch yr adfachu ar gyfer absenoldeb salwch, yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn hytrach na niferoedd staff.

 

PENDERFYNWYD:        Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

1.    Dadansoddiad, fesul Cyfarwyddiaeth, o’r eitemau a ganlyn:

 

a.    cost staff asiantaeth; a’r

b.    gwahaniaeth yn y gost rhwng gweithiwr asiantaeth ac Aelod o staff llawn amser cyfatebol.

2.    Gyda golwg ar y cymorth a ddarperir i fusnesau newydd, dadansoddiad o’r nifer sydd wedi elwa o gyngor, grantiau cychwyn neu gymorth arall.

 

3.    Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith bod yr adfachiadau ar gyfer absenoldeb salwch mewn ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn hytrach na niferoedd staff, a chlywyd bod Fforwm Cyllideb yr Ysgolion wedi gofyn am i ystyriaeth gael ei rhoi i'w bwysoli'n wahanol. Gofynnodd y Pwyllgor felly am y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddai Swyddogion Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Swyddogion Cyllid wedi trafod y mater a chyn y Fforwm nesaf.

 

Manylion dewisiadau oedd yn cael eu hystyried i alluogi'r siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gymunedol Maesteg i ailagor.

74.

Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 pdf eicon PDF 153 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

 

Alex Rawlin - Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar ail adroddiad hunanasesu corfforaethol y Cyngor a’i ddyfarniadau, a gofyn am sylwadau ar yr adroddiad drafft.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Y ffactorau sy’n cyfrannu at ddyfarniad cyffredinol yr Hunanasesiad o ‘Digonol’.

·         Meddu ar ddiwylliant gonest, agored a heriol gyda Dangosyddion sy'n gyrru tuag at berfformiad gwell.

·         Disgwyliad o fwy o fanylder a phwyslais ar gynaladwyedd a tharged Carbon Sero Net.

·         Diweddariad yngl?n â chyfraniad y Cyngor tuag at adfer eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto, nifer y tai gwag a’r disgwyliad y byddant yn cael eu defnyddio eto cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD:        Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

 

Adroddiad diweddaru, yn manylu ar ganlyniad partneriaeth y Cyngor gyda Chymoedd i’r Arfordir a chyfraniad o £500,000 tuag at adfer 35 eiddo gwag hirdymor i’w defnyddio eto.

75.

Cynigion ar gyfer y Trefniadau Trosolwg a Chraffu ar y Cyd yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r adroddiad, a'i ddiben oedd diweddaru'r Pwyllgor yngl?n â’r trefniadau craffu ar y cyd, arfaethedig, a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg (BGC), yn dilyn trosglwyddo i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cwm Taf Morgannwg a gofyn am enwebu pum Aelod ac un dirprwy Aelod o’r Pwyllgor, yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor, cyn belled ag y bo’n ymarferol, i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf Morgannwg (JOSC).

 

Yn dilyn trafodaeth, 

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor yn enwebu’r Aelodau a ganlyn i Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf Morgannwg:

 

   Y Cynghorydd Amanda Williams (enwebiad Gr?p Aelodau Annibynnol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr);

   Y Cynghorydd Alex Williams (enwebiad Gr?p y Gynghrair Ddemocrataidd); a’r

   Cynghorydd Freya Bletsoe (Dirprwy Aelod a enwebwyd o Gr?p Aelodau Annibynnol Sir Pen-y-bont ar Ogwr i fynychu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pan na fydd un o'r pum Aelod ar gael);

 

a

 

    Chytunodd y Pwyllgor i ohirio enwebiadau’r tri Aelod sy’n weddill o’r Gr?p Llafur tan ei gyfarfod ar 4 Medi 2023.

76.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.6 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn 2022-23 yn Atodiad B, a’r rheiny yn y cyfarfod blaenorol 2023-24 yn Atodiad C. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn eu hystyried yn y cylch diweddar o gyfarfodydd SOSC.

 

Bu’r Aelodau'n trafod y methiant TGCh diweddar a gofynnwyd am i'r adroddiad ynghylch Diogelwch Seiber gael ei amserlennu ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Medi 2023, a bod Cynlluniau Parhad Busnes TGCh i gael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dirprwyo'r eitem ar y Gwersi a Ddysgwyd wrth Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 ei hystyried.

 

Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 3.6, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys yr eitemau uchod, yn nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn Atodiadau B ac C ac yn nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc, yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.      

77.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.