Nad oes
cyfarfodydd rhannu rheoleiddio gwasanaethau cyd-bwyllgor ar gael ar
gyfer pori ar y safle hwn, dilynwch y cysylltiadau isod am manylion
cwrdd â gwybodaeth.
Gwybodaeth ynglyn a Chydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir
Mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn bartneriaeth
rhwng Cyngor Pen-y-bont, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro
Morgannwg. Caiff y bartneriaeth ei llywodraethu gan
Gydbwyllgor, a gynrychiolir yn gyfartal gan Aelodau Cabinet a
Chadeiryddion Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd o bob Cyngor. Nod
y bartneriaeth yw darparu gwasanaethau mwy effeithlon, cost
effeithiol, gan gynyddu gwydnwch Safonau Masnach, Iechyd yr
Amgylchedd a Thrwyddedu ar draws y rhanbarth.
Mae
Safonau Masnach yn hyrwyddo, cynnal a sicrhau amgylchedd masnachu
teg tra’n amddiffyn lles defnyddwyr a busnesau lleol.
Mae Iechyd yr Amgylchedd yn hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd,
diogelwch a lles y cyhoedd trwy gynnig cyngor, rheoleiddio a
gorfodi yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.
Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu
amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau, ac
rydyn ni’n dod ar draws y mwyafrif ohonynt yn ein bywydau bob
dydd. Mae trwyddedu yn cynnal safon uchel i amddiffyn y
cyhoedd drwy sicrhau bod deiliaid trwyddedau yn unigolion addas a
phriodol i gyflawni’r gweithgaredd trwyddedu a thrwy osod a
chynnal safonau y disgwylir gan ddeiliaid trwyddedau.
Caiff y
Cydbwyllgor Rheoleiddio a Rennir ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref
Sirol Bro Morgannwg. Fodd bynnag gellir gweld yr
Agenda a’r
Cofnodion.