Nad oes cyfarfodydd rhannu rheoleiddio gwasanaethau cyd-bwyllgor ar gael ar gyfer pori ar y safle hwn, dilynwch y cysylltiadau isod am manylion cwrdd â gwybodaeth.
Gwybodaeth ynglyn a Chydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir
Mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro Morgannwg. Caiff y bartneriaeth ei llywodraethu gan Gydbwyllgor, a gynrychiolir yn gyfartal gan Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd o bob Cyngor. Nod y bartneriaeth yw darparu gwasanaethau mwy effeithlon, cost effeithiol, gan gynyddu gwydnwch Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu ar draws y rhanbarth.
Mae
Safonau Masnach yn hyrwyddo, cynnal a sicrhau amgylchedd masnachu
teg tra’n amddiffyn lles defnyddwyr a busnesau lleol.
Mae Iechyd yr Amgylchedd yn hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd,
diogelwch a lles y cyhoedd trwy gynnig cyngor, rheoleiddio a
gorfodi yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.
Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu
amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau, ac
rydyn ni’n dod ar draws y mwyafrif ohonynt yn ein bywydau bob
dydd. Mae trwyddedu yn cynnal safon uchel i amddiffyn y
cyhoedd drwy sicrhau bod deiliaid trwyddedau yn unigolion addas a
phriodol i gyflawni’r gweithgaredd trwyddedu a thrwy osod a
chynnal safonau y disgwylir gan ddeiliaid trwyddedau.
Caiff y Cydbwyllgor Rheoleiddio a Rennir ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Fodd bynnag gellir gweld yr Agenda a’r Cofnodion.