Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Alex Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol am y flwyddyn ddinesig |
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorwyr canlynol ddatgan buddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda:
Cynghorydd Amanda Williams am fod aelod o’r teulu mewn cartref gofal preswyl . |
|
Alldro Cyllideb Refeniw 2022-23 PDF 407 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Mark Shephard - Prif Weithredwr Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor yn y flwyddyn yn diweddu yr 31ain o Fawrth 2023.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:
Ar draws y Cyngor · Amrywiadau yn y gyllideb a chadernid proses gosod y gyllideb. · Pwysau adnoddau a phwysau cyllidebol a'r angen am gyllid, newid a mewnbwn gan y Llywodraeth ganolog er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol. · Rheoli perfformiad a data, cywirdeb gwybodaeth a chraffu ar gyfrifon gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. · Y posibilrwydd o fenthyca a thynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd er mwyn sicrhau bod rhai prosiectau yn y Rhaglen Gyfalaf yn mynd yn eu blaen.
Y Gweithlu, Recriwtio a Chadw · Effaith nifer y swyddi gwag ar Adnoddau Dynol (AD) a’r effaith debygol ar y Gyllideb pe bai’r Cyngor wedi ei staffio’n llawn. · Y dulliau o hysbysebu swyddi gwag a dulliau recriwtio eraill gan gynnwys datblygu perthynas gydag ysgolion a phrifysgolion. · Yr amser yr oedd yn ei gymryd i recriwtio ymgeisydd llwyddiannus i swydd a model y partner busnes o ran cydweithio rhwng Adnoddau Dynol a’r Cyfarwyddiaethau. · Telerau ac amodau cenedlaethol, cyfraddau tâl, gallu’r Awdurdod i gystadlu ag awdurdodau lleol eraill a’r sector preifat a’r potensial ar gyfer trefniadau cydweithredol yn y dyfodol.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd · Nifer yr ysgolion sy’n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau, cyfraniad yr Awdurdod Lleol tuag at gostau ynni cynyddol, y posibilrwydd o ddiswyddiadau staff ac effaith nifer y disgyblion ar y gofrestr. · Pwysau chwyddiant a her recriwtio i'r Gwasanaethau Arlwyo a'r effaith ar ddarparu clybiau brecwast a phrydau ysgol. · Y ffactorau sy'n cyfrannu at y tanwariant yn y Gr?p Cefnogi Teuluoedd. · Y lleoedd gwag yn yr Uned Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, yr effaith ar gyflawni a'r hyn y mae'r Awdurdod yn ei wneud i liniaru eu heffaith.
·
Cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref
i’r ysgol a’r amserlen debygol ar gyfer
cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth
Cymru. Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant · Dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau statudol a chost hynny a'r effaith ar barhad i deuluoedd. · Rôl Swyddogion Cefnogi Gwaith Cymdeithasol. · Gorwariant ac amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, cost gynyddol offer a gwaith a'i effaith ar y gallu i gynorthwyo pobl i fyw'n ddiogel gartref. · Lle mewn cartrefi gofal a chost y gofal am breswylwyr oedrannus. · Y ddemograffeg a'r effaith ar y galw a'r angen i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn ddigonol. · Amcangyfrif o bwysau cyllidebol yn y dyfodol a phwysigrwydd cost-effeithiolrwydd, arloesi a gwasanaethau ataliol. · Ailfodelu Gwasanaethau Dydd i bobl h?n a Gwasanaethau Anabledd Dysgu a'r posibilrwydd o ailfodelu gwasanaethau eraill yn y dyfodol.
Cymunedau · Heriau recriwtio. · Cefnogaeth i Atgyfeiriadau Aelodau a ffyrdd o wella effeithlonrwydd Porth yr Aelodau. · Pwysau cyllidebol a staffio yn yr adran Gynllunio a Datblygu. · Y cynnig parcio am ddim a chynnal a thrawsnewid trefi. · Rhesymau dros yr oedi cyn agor Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Pîl. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 63. |
|
Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad PDF 155 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd
Mark Shephard - Prif Weithredwr Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid
Alex Rawlin - Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a phwrpas hwn oedd cynnig Cynllun Cyflawni un flwyddyn ar gyfer y Cynllun Corfforaethol (CPDP) i gefnogi Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor ynghyd â Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi ei ddiweddaru i gynorthwyo’r Cyngor i fesur cynnydd arno.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Weithredwr, canmolodd y Pwyllgor y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a’r Swyddog Gwella Corfforaethol am eu gwaith ar y Cynlluniau a’r Fframwaith a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac osgoi dyblygu. · Pwysigrwydd Dangosyddion Perfformiad penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac amserol (SMART), osgoi gosod gwaelodlin heb fod angen a symudiad posibl tuag at Amcanion a Chanlyniadau Allweddol. · Rôl aelodau'r cyhoedd a phwysigrwydd cyfathrebu a rheoli disgwyliadau. · Sicrhau bod y CPDP yn ystyrlon ac yn berthnasol i'r cyhoedd a'r holl staff. · Yr amserlen a'r camau nesaf a ragwelir ar gyfer y CPDP. · Y pryderon a nodwyd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru, gan gynnwys ansawdd a chywirdeb data. · Pwysigrwydd data cymesur, clir a llawn gwybodaeth.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Ystyried sut y gellir rhaeadru’n effeithiol y rolau a nodir yn adran ‘Rwyf i yn …’ yn y Fframwaith Perfformiad drafft a sut i’w cyfleu i’r holl staff a’r cyhoedd.
Bod adroddiadau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu i gynnwys trosolwg cyfannol yn ffurf crynodeb gweithredol i grynhoi perfformiad yn glir fel y'i mesurwyd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch amser ac ymdrech Swyddogion i gyflwyno data cymhleth a chroesawai wybodaeth gryno a chymesur a allai fod yn fwy cynaliadwy a dylanwadol. |
|
Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol PDF 132 KB Cofnodion:
Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau, ac yn dilyn hynny
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd T Thomas fel cynrychiolydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i eistedd ar wahoddiad yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Craffu yr adroddiad, a’i bwrpas oedd cyflwyno i'r Pwyllgor ymateb y Cabinet i'r Argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor pan gafodd Penderfyniad y Cabinet ar 14 Mehefin 2022 ei alw i mewn, mewn perthynas â'r adroddiad am y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff Ôl-2024, a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 18 Hydref 2022.
Yn dilyn trafodaethau yngl?n â’r rhesymau am yr oedi cyn rhoi ateb,
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ymateb y Cabinet oedd ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.6 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion i olrhain yr ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad B, Dangosfyrddau Perfformiad y Cyfarwyddiaethau yn Atodiadau C, D, E ac F, y Traciwr Rheoleiddio yn Atodiad G a gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid diweddariad pellach am y Traciwr mewn cyfarfod yn y dyfodol er gwybodaeth, yn dilyn adrodd amdano wrth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Gofynnodd y Pwyllgor am i ystyriaeth gael ei rhoi i drefnu adroddiad ynghylch heriau’r gweithlu, recriwtio a chadw, gan osgoi dyblygu gwaith gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i drefnu’r adroddiad ar Ddiogelwch Seiber ar adeg briodol ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 3.6, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf pan gâi data Perfformiad Chwarter 4 2022-23 ei gyflwyno.
Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A yn amodol ar gynnwys yr eitemau uchod ac yn nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn Atodiad B, Dangosfyrddau Perfformiad y Cyfarwyddiaethau yn Atodiadau C, D, E ac F, a’r Traciwr Rheoleiddio yn Atodiad G. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |