Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Llun, 3ydd Gorffennaf, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Ethol Cadeirydd pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Ethol y Cynghorydd Alex Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol am y flwyddyn ddinesig

62.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr canlynol ddatgan buddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda:

 

  • Y Cynghorydd Heidi Bennett fel un yn gweithio mewn corff sy’n cyflogi arweinwyr cymunedol ac fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg (CTMRPB); 
  • Y Cynghorydd Jane Gebbie fel Cadeirydd CTMRPB; a’r

Cynghorydd Amanda Williams am fod aelod o’r teulu mewn cartref gofal preswyl .

63.

Alldro Cyllideb Refeniw 2022-23 pdf eicon PDF 407 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd

Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Carys Lord  - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor yn y flwyddyn yn diweddu yr 31ain o Fawrth 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

Ar draws y Cyngor

·         Amrywiadau yn y gyllideb a chadernid proses gosod y gyllideb.

·         Pwysau adnoddau a phwysau cyllidebol a'r angen am gyllid, newid a mewnbwn gan y Llywodraeth ganolog er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol.

·         Rheoli perfformiad a data, cywirdeb gwybodaeth a chraffu ar gyfrifon gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

·         Y posibilrwydd o fenthyca a thynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd er mwyn sicrhau bod rhai prosiectau yn y Rhaglen Gyfalaf yn mynd yn eu blaen.

 

Y Gweithlu, Recriwtio a Chadw

·         Effaith nifer y swyddi gwag ar Adnoddau Dynol (AD) a’r effaith debygol ar y Gyllideb pe bai’r Cyngor wedi ei staffio’n llawn.

·        Y dulliau o hysbysebu swyddi gwag a dulliau recriwtio eraill gan gynnwys datblygu perthynas gydag ysgolion a phrifysgolion.

·         Yr amser yr oedd yn ei gymryd i recriwtio ymgeisydd llwyddiannus i swydd a model y partner busnes o ran cydweithio rhwng Adnoddau Dynol a’r Cyfarwyddiaethau.

·         Telerau ac amodau cenedlaethol, cyfraddau tâl, gallu’r Awdurdod i gystadlu ag awdurdodau lleol eraill a’r sector preifat a’r potensial ar gyfer trefniadau cydweithredol yn y dyfodol.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

·           Nifer yr ysgolion sy’n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau, cyfraniad yr Awdurdod Lleol tuag at gostau ynni cynyddol, y posibilrwydd o ddiswyddiadau staff ac effaith nifer y disgyblion ar y gofrestr. 

·           Pwysau chwyddiant a her recriwtio i'r Gwasanaethau Arlwyo a'r effaith ar ddarparu clybiau brecwast a phrydau ysgol.

·           Y ffactorau sy'n cyfrannu at y tanwariant yn y Gr?p Cefnogi Teuluoedd.

·           Y lleoedd gwag yn yr Uned Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, yr effaith ar gyflawni a'r hyn y mae'r Awdurdod yn ei wneud i liniaru eu heffaith.

·           Cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref i’r ysgol a’r amserlen debygol ar gyfer cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth Cymru.
 

Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

·           Dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau statudol a chost hynny a'r effaith ar barhad i deuluoedd.

·           Rôl Swyddogion Cefnogi Gwaith Cymdeithasol.

·           Gorwariant ac amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, cost gynyddol offer a gwaith a'i effaith ar y gallu i gynorthwyo pobl i fyw'n ddiogel gartref.

·           Lle mewn cartrefi gofal a chost y gofal am breswylwyr oedrannus.

·           Y ddemograffeg a'r effaith ar y galw a'r angen i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn ddigonol. 

·           Amcangyfrif o bwysau cyllidebol yn y dyfodol a phwysigrwydd cost-effeithiolrwydd, arloesi a gwasanaethau ataliol.

·           Ailfodelu Gwasanaethau Dydd i bobl h?n a Gwasanaethau Anabledd Dysgu a'r posibilrwydd o ailfodelu gwasanaethau eraill yn y dyfodol.

 

Cymunedau

·         Heriau recriwtio.

·         Cefnogaeth i Atgyfeiriadau Aelodau a ffyrdd o wella effeithlonrwydd Porth yr Aelodau.

·         Pwysau cyllidebol a staffio yn yr adran Gynllunio a Datblygu.

·         Y cynnig parcio am ddim a chynnal a thrawsnewid trefi.

·         Rhesymau dros yr oedi cyn agor Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Pîl.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 63.

64.

Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad pdf eicon PDF 155 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

 

Alex Rawlin - Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a phwrpas hwn oedd cynnig Cynllun Cyflawni un flwyddyn ar gyfer y Cynllun Corfforaethol (CPDP) i gefnogi Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor ynghyd â Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi ei ddiweddaru i gynorthwyo’r Cyngor i fesur cynnydd arno. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Weithredwr, canmolodd y Pwyllgor y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a’r Swyddog Gwella Corfforaethol am eu gwaith ar y Cynlluniau a’r Fframwaith a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac osgoi dyblygu.

·         Pwysigrwydd Dangosyddion Perfformiad penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac amserol (SMART), osgoi gosod gwaelodlin heb fod angen a symudiad posibl tuag at Amcanion a Chanlyniadau Allweddol.

·         Rôl aelodau'r cyhoedd a phwysigrwydd cyfathrebu a rheoli disgwyliadau.

·         Sicrhau bod y CPDP yn ystyrlon ac yn berthnasol i'r cyhoedd a'r holl staff.

·         Yr amserlen a'r camau nesaf a ragwelir ar gyfer y CPDP.

·         Y pryderon a nodwyd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru, gan gynnwys ansawdd a chywirdeb data.

·         Pwysigrwydd data cymesur, clir a llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:     Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

 

1.    Ystyried sut y gellir rhaeadru’n effeithiol y rolau a nodir yn adran ‘Rwyf i yn …’ yn y Fframwaith Perfformiad drafft a sut i’w cyfleu i’r holl staff a’r cyhoedd.

 

Bod adroddiadau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu i gynnwys trosolwg cyfannol yn ffurf crynodeb gweithredol i grynhoi perfformiad yn glir fel y'i mesurwyd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch amser ac ymdrech Swyddogion i gyflwyno data cymhleth a chroesawai wybodaeth gryno a chymesur a allai fod yn fwy cynaliadwy a dylanwadol.

65.

Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad oedd yn gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod fel ei Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel yr un i gael ei wahodd i gyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau, ac yn dilyn hynny

 

PENDERFYNWYD:   Enwebu’r Cynghorydd T Thomas fel cynrychiolydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i eistedd ar wahoddiad yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

66.

Ymateb y Cabinet i Argymhellion y Pwyllgor a wnaed pan gafodd Penderfyniad y Cabinet ynghylch y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff Ôl-2024 ei alw i mewn. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Craffu yr adroddiad, a’i bwrpas oedd cyflwyno i'r Pwyllgor ymateb y Cabinet i'r Argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor pan gafodd Penderfyniad y Cabinet ar 14 Mehefin 2022 ei alw i mewn, mewn perthynas â'r adroddiad am y Gwasanaeth Ailgylchu a Gwastraff Ôl-2024, a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 18 Hydref 2022.

 

Yn dilyn trafodaethau yngl?n â’r rhesymau am yr oedi cyn rhoi ateb,

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor yn nodi ymateb y Cabinet oedd ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad.

67.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 3.6 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion i olrhain yr ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad B, Dangosfyrddau Perfformiad y Cyfarwyddiaethau yn Atodiadau C, D, E ac F, y Traciwr Rheoleiddio yn Atodiad G a gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid diweddariad pellach am y Traciwr mewn cyfarfod yn y dyfodol er gwybodaeth, yn dilyn adrodd amdano wrth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am i ystyriaeth gael ei rhoi i drefnu adroddiad ynghylch heriau’r gweithlu, recriwtio a chadw, gan osgoi dyblygu gwaith gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i drefnu’r adroddiad ar Ddiogelwch Seiber ar adeg briodol ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

 

Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 3.6, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf pan gâi data Perfformiad Chwarter 4 2022-23 ei gyflwyno.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A yn amodol ar gynnwys yr eitemau uchod ac yn nodi’r Daflen Monitro Gweithredu Argymhellion yn Atodiad B, Dangosfyrddau Perfformiad y Cyfarwyddiaethau yn Atodiadau C, D, E ac F, a’r Traciwr Rheoleiddio yn Atodiad G.   

68.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.